Radio Cymru Mwy yn dechrau darlledu
- Cyhoeddwyd
Mae gorsaf dros dro Radio Cymru Mwy wedi dechrau darlledu am y tro cyntaf heddiw, gyda phwyslais ar "fwy o gerddoriaeth a hwyl".
Fe gyhoeddodd 91热爆 Cymru y cynllun peilot ar gyfer yr orsaf fel rhan o ddatblygiadau digidol y gwasanaeth i nodi ei phen-blwydd yn 40 oed.
Caryl Parry Jones yw'r cyflwynydd cyntaf i gael ei chlywed ar yr orsaf, wrth iddi ddechrau'r bore gyda'i sioe frecwast.
Bydd cyflwynwyr eraill Radio Cymru Mwy yn cynnwys Ifan Evans, Huw Stephens a Dylan Ebenezer, yn ogystal 芒 lleisiau newydd fel Steffan Alun, Elan Evans a Gwennan Mair.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd 91热爆 Radio Cymru: "Os mai cerddoriaeth cwmni a chwerthin yw'ch dewis chi yn y bore, dyna fydd s诺n Radio Cymru Mwy. Ac mae gallu cynnig y dewis holl bwysig i Gymry Cymraeg bob bore yn hynod o gynhyrfus.
"Mae'n rhaid cofio mai arbrawf yw hwn fydd yn rhoi cyfle i ni asesu be' sy'n bosibl dros gyfnod penodol. Mae hi'n gyfnod o newid mawr ym myd darlledu ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymchwilio sawl trywydd wrth geisio sicrhau ein bod ni'n ateb galw'r gwrandawyr."
Fe fydd y cynllun peilot yn rhedeg am 15 wythnos tan 2 Ionawr 2017, 40 mlynedd union i noswyl lansio 91热爆 Radio Cymru ar 3 Ionawr 1977.
Mae modd gwrando i'r orsaf dros dro ar wefan Radio Cymru Mwy, ar yr ap 91热爆 iPlayer Radio ac fel dewis ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain.
Mae'r datblygiad wedi cael ei groesawu gan fudiadau gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, sy'n ddweud yr hoffen nhw weld y gwasanaeth yn ehangu fel bod modd ei gael ar radio digidol ar draws Cymru yn y dyfodol.
"Ry'n ni'n croesawu'r lansiad yma gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg, ar gyfer pobl ifanc yn enwedig," meddai Curon Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith.
"Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth. Rydyn ni'n galw ar i'r 91热爆 ymestyn y gwasanaeth i radio digidol ym mhob rhanbarth o Gymru, yn hytrach na'r de ddwyrain yn unig."