Lansio ymgynghoriad ar ddyfodol ffermio yn dilyn Brexit
- Cyhoeddwyd
Bydd un o bwyllgorau'r Cynulliad yn gofyn am farn pobl yngl欧n 芒 sut i gefnogi'r diwydiant amaeth yng Nghymru yn sgil Brexit.
Dywedodd y Pwyllgor Materion Gwledig y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ysgogi'r newid mwyaf mewn 40 mlynedd yn y diwydiant.
Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru'n derbyn 拢250miliwn y flwyddyn mewn cymorthdaliadau o'r UE, yn ogystal 芒 拢500m dros chwe blynedd ar gyfer datblygu cefn gwlad.
Mae undeb yr NFU eisoes wedi lansio ymgynghoriad ymysg eu haelodau eu hunain, gan ddweud y dylai gadael Ewrop "ysgogi uchelgais newydd" ymysg ffermwyr.
Dywedodd AC UKIP Mark Reckless, cadeirydd y pwyllgor, y byddai'n "gyfle i ailstrwythuro polisiau amaethyddol a chefn gwlad... yn arbennig ar gyfer anghenion Cymru.
Mae disgwyl i'r ymgynghoriad holi:
Beth mae pobl am ei weld o ganlyniad i bolis茂au ffermio;
Pa wersi y mae modd eu dysgu o bolis茂au'r presennol a'r gorffennol, yng Nghymru a thu hwnt;
A ddylai Cymru dorri ei chwys ei hun neu rannu polisi cyffredinol 芒 gweddill y DU.
"Wrth lunio polis茂au newydd, mae angen i'r canlyniadau ar gyfer pobl Cymru gael eu hesbonio a'u deall yn glir," ychwanegodd Mr Reckless.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2016
- Cyhoeddwyd13 Awst 2016
- Cyhoeddwyd13 Awst 2016
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2016