Nathan Gill yn gadael grŵp UKIP yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae Nathan Gill wedi dweud y bydd yn gadael y grŵp UKIP yn y Cynulliad ac yn cymryd ei sedd fel AC annibynnol dros Ogledd Cymru.
Er hynny bydd yn parhau yn ei swydd fel arweinydd y blaid yng Nghymru yn ogystal â bod yn aelod o Senedd Ewrop.
Mae ffrae fewnol wedi bod yn berwi o fewn UKIP yn dilyn penderfyniad Mr Gill i wneud dwy swydd.
Roedd ymgais wedi bod i'w ddiarddel o'r grŵp yn y Senedd os nad oedd yn rhoi'r gorau i un o'i swyddi etholedig.
'Gwastraffu amser'
Dywedodd Mr Gill: "Wedi llawer o bwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu gadael y grŵp UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan gymryd fy sedd fel aelod annibynnol.
"Mae gormod o amser wedi cael ei wastraffu yn dadlau yn fewnol dros faterion na all gael eu datrys ac mae wedi tynnu ein sylw oddi ar y gwaith rydym wedi cael ein hethol i'w wneud.
"Rwy'n parhau i fod yn arweinydd UKIP yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i wasanaethu fy etholwyr."
Galw am ymddiswyddiad
Wrth ymateb fe ddywedodd Neil Hamilton, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad: "Dwi heb gael cadarnhad swyddogol, mae'n rhaid bod ei lythyr wedi mynd ar goll yn y post.
"Fe wnawn ein gorau i oroesi hebddo. Dydyn ni ddim yn ei weld ryw lawer yn y Cynulliad felly dwi ddim yn credu y gwelwn ni lawer o wahaniaeth."
Yn hwyrach prynhawn ddydd Mercher fe ychwanegodd Mr Hamilton y dylai Mr Gill ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad, gan ddweud ei fod wedi "torri addewid" i beidio â pharhau i wasanaethu yn y ddwy rôl.
"Chafodd e ddim ei ethol fel Nathan Gill, cafodd ei ethol oddi ar restr ranbarthol UKIP, fel y cefais i," meddai.
"Fe ddylai e nawr wneud y peth urddasol ac ymddiswyddo o'i rôl fel Aelod Cynulliad gan ei fod wedi gadael ein grŵp."