Addysg uwch Cymru'n 'eilradd' heb godi ffioedd dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd addysg uwch yng Nghymru yn "eilradd" yn y dyfodol os nad yw ffioedd dysgu yn cael eu cynyddu, yn 么l Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.
Daw hyn ar 么l iddi ddod i'r amlwg y bydd ffioedd yn codi i 拢9,250 y flwyddyn yn Lloegr yn 2017, gyda chynnydd yn unol 芒 chwyddiant yn y blynyddoedd canlynol.
Does dim cynlluniau tebyg i godi ffioedd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n ystyried argymhellion Adolygiad Diamond, sy'n edrych ar ddyfodol cyllid addysg uwch yng Nghymru pan mae'r ddogfen yn cael ei gyhoeddi yn yr Hydref.
'Rhesymau dilys' i godi ffioedd
Wrth siarad 芒 91热爆 Cymru, dywedodd yr Athro Richard Davies bod "rhesymau dilys dros ddilyn yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr" ac os fyddai modd i Brifysgol Abertawe gynyddu ffioedd yn yr un modd a Lloegr byddai "rhaid gwneud hynny".
Ychwanegodd bod angen codi ffioedd yng Nghymru "yng nghyd-destun trefniant ariannu cynaliadwy".
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am osod uchafswm ffioedd dysgu ar gyfer Prifysgolion Cymru.
Dywedodd Yr Athro Davies na fyddai o fudd i gynnig "prifysgolion rhad" i fyfyrwyr, a gyda llai o gyllid, mae yna risg "bydd pobl ifanc brwdfrydig ac uchelgeisiol yn mynd i rywle arall".
Mae'n mynnu y bydd Prifysgol Abertawe yn osgoi hynny ac yn cynnal safonau drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau o gynhyrchu cyllid.
Er hynny, nododd yr Is-ganghellor bod ffyrdd eraill o sicrhau incwm yn ei "wneud yn drist" oherwydd "mae'n golygu buddsoddi llawer mwy o ymdrech ar y farchnad dramor a chael llai o fyfyrwyr o Gymru" yn y brifysgol.
Dywedodd hefyd y bydd Prifysgolion Cymru yn derbyn llai o arian Ewropeaidd yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd ac fe fydd myfyrwyr o dramor yn helpu i lenwi'r bwlch.
Yn 么l yr Athro Davies, byddai'n "rhyfeddu" os na fyddai Adolygiad Diamond yn gweld yr angen i neilltuo mwy o arian i roi cymorth i fyfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd talu costau byw.
'Gwael i fyfyrwyr'
Fe ddwedodd Llywydd NUS Cymru, Fflur Elin, bod codi ffioedd yn "wael i fyfyrwyr" a bod "myfyrwyr fel y mae hi yn dod allan o brifysgol gyda lot o ddyled".
Ychwanegodd bod rhaid sicrhau bod gan bawb fynediad at addysg a'i bod yn gobeithio y bydd Adolygiad Diamond yn edrych ar gost addysg yn ei gyfanrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddai cynyddu ffioedd dysgu yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru, ac y byddai gweinidogion yn ystyried canfyddiadau Adolygiad Diamond ar ddyfodol cyllid myfyrwyr pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2016