Ffoaduriaid i gael help prifysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o brifysgolion Cymru yn datblygu cynlluniau i gynnig ysgoloriaethau i ffoaduriaid.
Cadarnhaodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn trafod cynnig pum ysgoloriaeth, ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystyried cynllun tebyg.
Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cynnig cymorth ariannol i geiswyr lloches.
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn llunio cynlluniau ariannol yngl欧n 芒'r cynllun yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Bu'r coleg yn trafod eu cynlluniau a'r Cyngor Prydeinig a Universities UK.
'Ddim yn fforddiadwy'
Fe groesawyd y cynlluniau gan Mohammed Al Hadj Ali o Gymdeithas Cymru Syria.
Fe ddywedodd Mr Ali: "Does gan fyfyrwyr meddygaeth ddim lot o opsiynau, mae'n anodd cael arian ar gyfer cwrs sydd yn costio 拢25,000 y flwyddyn ar gyfer ffioedd a chostau byw.
"Dyw e ddim yn fforddiadwy i rywun sydd ddim yn medru gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr."
Mae nifer o brifysgolion eraill yn cynnig cymorth amrywiol i fyfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys Prifysgol Bangor sydd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr tramor.
Mae pob un o gynghorau Cymru wedi addo cynnig lloches i ffoaduriaid o Syria. Hyd yma mae 78 o bobl wedi symud i Gymru.
Yn eu plith mae Mohammad Haji-Saleh sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers blwyddyn.
Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w astudiaethau meddygol yn Syria ar 么l cwblhau dwy flynedd mewn coleg.
"Rydw i wedi gwneud cynigion i lawer o brifysgolion ond mae'n anodd" meddai.
"Rwy'n dal i drio parhau 芒 fy astudiaethau"