'Tai yn hanfodol i ddyfodol cymunedau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd fforwm drafod yn cael ei gynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ddydd Mercher, i ganolbwyntio ar wneud y cysylltiadau rhwng tai, pobl ifanc a chymunedau Cymraeg.
Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, fydd yn cynnal fforwm, gyda ffigyrau amlwg o feysydd y Gymraeg, pobl ifanc a thai yn cymeryd rhan yn y digwyddiad.
Fe fydd aelodau'r panel yn cynnwys:
Sioned Hughes, Prif Weithredydd Urdd Gobaith Cymru,
Ruth Richards, Prif Weithredydd Dyfodol i'r Iaith,
David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy,
Christian Webb, Youth Cymru,
Osian Ellis, cynrychiolydd Ble Ti'n Mynd i Fyw.
Rhys Evans, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol Cartrefi Cymunedol Gwynedd.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr CHC: "Mae tai yn ymwneud 芒 chymaint mwy na rhoi to dros bennau pobl. Dyma'r glud sy'n cadw cymuned gyda'i gilydd. Er bod y cysylltiadau rhwng iechyd a thai, yr economi, addysg a threchu tlodi yn gyfarwydd iawn, mae cynnal a hybu cymunedau Cymraeg ledled Cymru hefyd yn elfen hanfodol ond llai hysbys o waith y sector.
"Nod fforwm drafod heddiw yw rhannu a llunio syniadau ar sut y gall tai helpu i gynnal cymunedau lleol ymhellach ar gyfer pobl ifanc, yn neilltuol lle mae gan y Gymraeg le canolog."
Meddai David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy: "Mae cadw pobl ifanc a datblygu tai newydd mewn cymunedau Cymraeg yn hollbwysig, nid yn unig i'r gymuned ei hun, ond i Gymru gyfan.
"Ni allwn fforddio caniat谩u i'r cymunedau hyn wanhau mwy nag a wnaethant eisoes. Os gwnawn hynny, byddwn yn colli iaith, hanes, diwylliant a cymaint mwy."