91热爆

Ateb y Galw: Robat Gruffudd

  • Cyhoeddwyd
robat gruffuddFfynhonnell y llun, Robert Parry Jones

Yr awdur Robat Gruffudd, perchennog gwasg Y Lolfa, sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar 么l iddo gael ei enwebu gan Caryl Lewis yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Eira mawr 1946 yn y Bala, lle roedden ni'n byw ar y pryd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Geinor Evans. Ro'n i mewn cariad 芒 hi o 10-13 oed. Roedden ni'n dau yn Ysgol Gymraeg L么n-las, Abertawe. Gadawodd neges i fi un dydd yn dweud ei bod hi'n gorffen 'da fi ultimately - gair hyll, Saesneg sydd wedi serio yn fy nghof byth wedyn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cytuno i gais Sion Jobbins i bosio ar gyfer tudalennau "ffasiwn" Golwg. Rwy'n gobeithio'n fawr bod y t芒n yna yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi llosgi pob copi o'u harchif.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yng Ngwersyll Garchar Ravensbr眉ck, i'r gogledd o Berlin, lle llofruddiwyd fy Mamgu gan y Nats茂aid.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, ddigon, ond yr un gwaethaf yw gofyn o hyd, ydy'r arferiad yma'n ddrwg neu beidio - yn hytrach na'i fwynhau.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Diolch am gwestiwn hawdd o'r diwedd! Talybont yw'r ateb wrth gwrs. Yn 么l unrhyw fesur cyffredin o safon byw -- amgylchedd hardd, cymdeithas fywiog, tafarnau da -- mae Talybont yn sgorio'n uchel iawn.

Ffynhonnell y llun, Nigel Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Talybont a thalcen eiconig gwasg Y Lolfa

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ces i un fythgofiadwy gyda Gwilym Tudur mewn taferna yn Rethymnon, Creta lle buom yn trafod Ewrogomiwnyddiaeth tan y bore bach dros sawl caraff o win coch, garw gyda dau Gretiad ifanc o'r Brifysgol leol. (Roedd hynny rai blynyddoedd yn 么l; o edrych ar gyflwr Ewrop heddiw, mae'n ymddangos eu bod nhw'n iawn!)

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cymro. Iddew. Almaenwr.

Beth yw dy hoff lyfr?

Fel cyhoeddwr byddai'n annoeth i fi enwi llyfr Cymraeg; fy hoff lyfr Saesneg yw dyddiaduron Boswell. Am y gweddill, anodd iawn dewis.. .wel, efallai'r 'Tao Te Ching', clasur Lao Tse, sy'n llawn cynghorion doeth sydd ar sut i redeg gwlad - a busnes. Rwy'n weddol si诺r bod yna gyngor yno yn rhywle: "peidiwch cynhyrfu'r bobl 芒 refferenda diangen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robat yn ennill Medal Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Bro Morgannwg, 2012

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Does dim un, er gwaethaf fy soujourn i fyd ffasiwn (gw. uchod).

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Ffilm 5 awr a hanner o'r Meistersinger gan Wagner, oedd yn ddarllediad o Glyndebourne, yn Theatr y Werin. Ardderchog, ond sychedig.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Anghofiwch am y prosiect yma! Neith e ddim gweithio!!

Dy hoff albwm?

Un o fy ffefrynnau yw "Pan Hed Angylion Heibio" gan Dafydd Dafis (ond yn rhyfedd iawn, heb glywed y caneuon erioed ar Radio Cymru).

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Y gnocchi fel prif gwrs yn Gwesty Cymru, ond mae'r croeso cynnes, Cymraeg a'r awyrgylch fywiog yn cyfrannu cymaint at y profiad 芒'r bwyd ei hun.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rwy'n gwybod yr ateb i hwn! Bod yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr yr El Molino yn Barselona. Rwy'n dwlu ar gabaret a dethon ni ymlaen yn dda er bod 'da fi ddim Sbaeneg, na fe, dim Saesneg, ac felly rwy'n hyderus y bydd e'n barod i fi gymryd ei le am un noson.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa'?

Fy mrawd, Heini Gruffudd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robat gyda ei frawd, Heini Gruffudd