Llyfr y Flwyddyn: Y Bwthyn yn plesio dwy waith
- Cyhoeddwyd
Caryl Lewis sydd wedi ennill Llyfr y Flwyddyn 2016 yn y Gymraeg.
Fe ddaeth ei nofel Y Bwthyn i'r brig yn y categori Ffuglen ac mae'n golygu ei bod hi'n derbyn gwobr ariannol o 拢4,000. Mae hefyd wedi derbyn tlws gafodd ei greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Dyma'r ail waith iddi gipio'r brif wobr wedi iddi gyflawni'r un gamp yn 2005 gyda'r nofel Martha Jac a Sianco.
Mae Y Bwthyn yn cael ei disgrifio fel 'nofel gynnil, delynegol, a'r mynydd a'i dymhorau yn gymeriadau amlwg ynddi'.
Roedd hi'n noson lwyddiannus i'r awdur o Ddihewyd ger Aberaeron wrth iddi hefyd gipio'r wobr Barn y Bobl Golwg360.
Y beirniaid ar gyfer y tri chategori Cymraeg eleni oedd Lleucu Roberts, Dr Llion Pryderi Roberts a Huw Stephens.
Dywedodd Huw Stephens: "Doedd hi ddim yn hawdd penderfynu ar enillwyr y tri chategori, ond roedd hi'n bleser mawr cael darllen a rhannu meddyliau ar y llyfrau buddugol. Mae'r gyfrol fuddugol eleni yn cynnig golwg dreiddgar ar sefyllfa annisgwyl, mewn modd cywrain, cynnil a phendant.
"Roedd y tri ohonom yn teimlo bod crefft ddiymwad yr awdur yn llwyddo i gonsurio byd cyfoethog a chymhleth gerbron y darllenydd, a gwneud i'r astrus a'r heriol ymddangos mor rhyfeddol o rwydd - campwaith yn wir."
Cafodd Thomas Morris o Gaerffili noson dda hefyd gan ennill y brif wobr yn Saesneg gyda'i gasgliad o straeon byrion, We Don't Know What We're Doing. Dyma ei gyfrol gyntaf o straeon byrion a hon wnaeth y beirniaid ddyfarnu oedd yn haeddu'r wobr yn y categori Ffuglen Saesneg. Daeth hefyd i'r brig wrth iddo gipio People's Choice Award Wales Arts Review.
Mererid Hopwood enillodd y wobr Farddoniaeth Gymraeg gyda'i chyfrol gyntaf o gerddi, Nes Draw, a Gruffydd Aled Williams ddaeth i'r brig yn y categori Ffeithiol Creadigol gyda'i gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glynd诺r.
Yn y categor茂au Saesneg Philip Gross gafodd y wobr Barddoniaeth gyda'i gasgliad Love Songs of Carbon a llyfr Jasmine Donahaye, Losing Israel oedd y llyfr Ffeithiol Creadigol orau yn 么l y beirniaid.
Mae'r enillwyr i gyd yn derbyn gwobr ariannol o 拢1,000.
Cafodd y cyhoeddiadau yngl欧n 芒'r enillwyr eu gwneud yn ystod seremoni Llyfr y Flwyddyn, y tro yma ym Merthyr.