91热爆

Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2016

  • Cyhoeddwyd
gwobrau

Ar 21 Gorffennaf cafodd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2016 ei chynnal yng nghanolfan gelfyddydol T欧 Coch ym Merthyr Tudful. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau trwy lens y ffotograffydd Sioned Birchall:

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beirniaid y gwobrau Cymraeg: Llion Pryderi Roberts, Huw Stephens a Lleucu Roberts

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r noson. Dyma y Prif Weithredwr Lleucu Siencyn yn sgwrsio gyda Alun Davies, Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mererid Hopwood, ar restr fer y Farddoniaeth Gymraeg cyn dechrau'r seremoni

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Thomas Morris wedi ei enwebu deirgwaith yn y categor茂au Saesneg. Cafodd gefnogaeth dda gan ei hen ffrindiau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lisa Gwilym yw meistres y ddefod

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Pwy sydd wedi ennill te?" Y gynulleidfa'n barod am y seremoni

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Caryl Lewis Wobr y Bobl am ei nofel 'Y Bwthyn'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Caryl ar ei thraed eto mewn rhai munudau i dderbyn gwobr y Nofel Gymraeg Orau

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mererid Hopwood yn derbyn ei gwobr am 'Nes Draw' y Farddoniaeth Gymraeg orau

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jasmine Donahaye, enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei chyfrol 'Losing Israel'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gruffydd Aled Williams gyda'r wobr Ffeithiol Greadigol am ei gyfrol 'Dyddiau Olaf Owain Glynd诺r'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Philip Gross, enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias am ei gyfrol 'Love Songs of Carbon'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw Stephens yn datgelu enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Y Bwthyn' yn llawn: Llongyfarchiadau mawr i Caryl Lewis ar ennill tair gwobr gan gynnwys Llyfr Cymraeg y Flwyddyn

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd na drindod o wobrau hefyd i Thomas Morris am ei nofel "We Don't Know What We're Doing'. Mae'n amlwg bod Thomas yn gwybod beth mae'n ei neud wrth gipio Gwobr y Bobl, Y Nofel Saesneg Orau a Llyfr Saesneg y Flwyddyn.