Newid hinsawdd: 'Angen mwy o weithredu yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o weithredu yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y risgiau a ddaw yn sgil newid hinsawdd, mae astudiaeth gan ymgynghorwyr Llywodraeth y DU yn rhybuddio.
Mae'r adroddiad yn nodi bylchau a diffygion yng nghynlluniau'r dyfodol, ac yn yr ymrwymiadau gwario ar y perygl o lifogydd, rheoli adnoddau naturiol, a'r effaith ar iechyd y cyhoedd.
Ar hyn o bryd, "nid oes polis茂au yn bodoli" i addasu cartrefi neu adeiladau eraill i ddelio 芒 thymheredd uwch, fel sy'n cael ei ddarogan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud eu bod yn cymryd camau i lenwi'r bylchau.
Ystyried peryglon y dyfodol
Fe gymerodd dair blynedd i ysgrifennu'r Adroddiad Tystiolaeth Asesu Risgiau Newid Hinsawdd y DU, sy'n cynnwys cyfraniadau gan gannoedd o wyddonwyr blaenllaw.
Mae'n nodi'r risgiau a'r cyfleoedd mwyaf brys sy'n deillio o newid hinsawdd, gyda chrynodeb ar gyfer pob gwlad ddatganoledig gan gynnwys Cymru.
Mae'r astudiaeth yn 2,000 tudalen, ac mae wedi ei baratoi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC), corff annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU.
Roedd yn cynnwys edrych ar feysydd fel risg llifogydd yn y dyfodol, yr effaith ar adnoddau naturiol, pobl, adeiladau, busnes, ffermio a bywyd gwyllt, yn ogystal ag edrych ar faterion diogelwch a senarios newid eithafol yn yr hinsawdd.
Mae'r adroddiad yn dweud fod effeithiau newid hinsawdd eisoes yn cael eu gweld yn y DU, gyda 14 o'r 15 mlynedd diwethaf y rhai poethaf ers dechrau cofnodi.
Mae newidiadau i'r hinsawdd yng Nghymru yn debygol o gynnwys cyfnodau o ormod o dd诺r, neu rhy ychydig, gan gynyddu tymheredd cyfartalog a chynnydd yn lefel y m么r.
Gallai cyfleoedd i ffermwyr allu cynyddu eu cyfraddau cynhyrchu mewn hinsawdd gynhesach, ond dim ond drwy reoli risgiau i bridd a chyflenwad d诺r.
Gallai effaith ar seilwaith arfordirol fod yn ddifrifol, gyda ffyrdd a rheilffyrdd o dan fygythiad.
Yn y cyfamser, dylai effeithiau tymheredd uwch ar ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus fod yn "flaenoriaeth ymchwil" yng Nghymru, yn dilyn gwaith a wnaed yn Llundain a dinasoedd mawr eraill yn Lloegr.
Mae cadeirydd Is-bwyllgor Ymaddasu y CSC, Yr Athro Arglwydd John Krebs, wedi dweud wrth 91热爆 Cymru fod y risgiau mae'r wlad yn eu hwynebu yn debyg i'r rhai ar draws y DU, ond bod "seilwaith o ansawdd gwael" yn broblem.
"Mae Cymru yn un rhan o'r wlad gyda llawer o stoc tai gwael ac mae angen i ni edrych ar sut yr ydym yn gwneud y cartrefi hynny yn fwy gwydn."
Cymru'n 'dechrau'n dda'
Ond dywedodd yr Athro Krebs, a oedd unwaith yn ddarlithydd s诺oleg ym Mhrifysgol Bangor, bod Cymru wedi "dechrau'n dda iawn" wrth geisio wynebu'r heriau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Mae'n rhaid i weinidogion yn San Steffan ymateb yn ffurfiol yn awr, gyda chynlluniau i fynd i'r afael 芒'r materion a godwyd, tra bod angen i lywodraethau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd ddefnyddio'r wybodaeth i atgyfnerthu a datblygu eu cyfreithiau eu hunain.
Mae Llywodraeth y DU yn llunio asesiadau risg ar newid hinsawdd bob pum mlynedd a bydd hyn yn cael ei gyflwyno i'r Senedd yn y flwyddyn nesaf.
Croesawodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yr adroddiad, gan ddweud y byddai'n cymryd amser i ystyried y canfyddiadau.
"Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd datblygu ein cartrefi a'n cymunedau, a dyna pam yr ydym yn cymryd camau i warchod y rhain yn well rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol."