Lle oeddwn i: Fflur Dafydd a Y Llyfrgell
- Cyhoeddwyd
Enillodd Fflur Dafydd am ei nofel 'Y Llyfrgell' yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 2009. Yr haf hwn, mae addasiad ffilm o'r nofel wedi cael ei dangos yng Ng诺yl Ffilm Caeredin ac mi fydd yn cael ei dangos yn sinema Y Fenni, nos Lun Awst 1, wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref.
Bu Fflur Dafydd yn s么n am gefndir y nofel, fel rhan o'n cyfres 'Lle oeddwn i':
Mae'r syniad am 'Y Llyfrgell' yn mynd n么l rhyw 15 mlynedd. Yn 2001, pan o'n i'n ffilmio eitemau addysgiadol i blant yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, fe welais i'r archifau tanddaearol sydd yno.
O'n i ddim yn ymwybodol cyn hynny bod 'na gymaint o fywyd yn y llyfrgell tu hwnt i'r llefydd oedd y cyhoedd yn cael eu gweld.
Feddylies i y bydde fe'n gr锚t i wneud ffilm yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond pan ddechreues i roi pethe lawr ar bapur, sylweddolais mai nofel oedd y syniad bryd hynny.
Ro'n i'n gweithio ar PhD am R S Thomas yn 2004, ac am y tri mis ola' o sgwennu r'on i yn y Llyfrgell Genedlaethol bob dydd. O'n i'n teimlo mod i'n byw 'na, ac yn ystod y cyfnod o neud y gwaith ymchwil, fe wnes i ddechre sgwennu ambell i syniad creadigol.
R'on i'n sgwennu am y lle, tra bo fi yn y lle, gan feddwl pa fath o bethe' allai ddigwydd yna.
Felly fe wnes i ddechre ar y syniad o'r nofel yn 2004 a'i adael e ar fy nghyfrifiadur. Wedyn yn 2008 penderfynais mai dyna'r amser i sgwennu'r nofel - ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod.
Yn fy nh欧 yn Stryd Parcman, Caerfyrddin, y sgwennais i 'Y Llyfrgell'. R'on i wrthi bob nos, bob penwythnos, nes ei bod hi wedi cwpla, dros gyfnod o tua wyth mis.
R'on i'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar y pryd, ac o'n i'n sgwennu mwy o'r nofel yn ystod bob awr ginio. Pan dwi'n sgwennu nofel, dwi'n teimlo bod yn rhaid i fi neud tamed bach bob dydd er mwyn i steil y peth fod yn gyson ac er mwyn i'r stori lifo, hyd yn oed os yw e jyst yn baragraff, o leia ti dal yn meddwl amdano fe.
R'on i'n sgwennu 'Y Llyfrgell' yn y cyfnod jyst cyn i fi briodi. Fe wnes i briodi ar y dydd Sadwrn ac ennill y Daniel Owen ar y dydd Mawrth - y Steddfod oedd ein mis m锚l ni!