Dementia: 'Amhosib' cynllunio gofal cyfrwng Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'n "amhosib" cynllunio darpariaeth i gleifion dementia sy'n siarad Cymraeg oherwydd y diffyg gwybodaeth am faint o siaradwyr Cymraeg sydd 芒'r cyflwr, yn 么l Comisiynydd y Gymraeg.
Roedd Meri Huws yn siarad 芒 rhaglen Newyddion 9 91热爆 Cymru.
Gyda mwy a mwy o bobl yn cael diagnosis o ddementia yng Nghymru, dywedodd Ms Huws nad yw'r broblem yn un sy'n mynd i fynd i ffwrdd, ac mae gwasanaethau yn y Gymraeg yn hanfodol i ddioddefwyr sydd 芒 Chymraeg fel eu hiaith gyntaf.
Ychwanegodd bod y gofal sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio'n sylweddol mewn rhannau gwahanol o Gymru.
Argymhellion
Yn ei hadroddiad - 'Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i'r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol' - mae'r Comisiynydd yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n cynnwys:
Gofyn i Weinidogion Cymru, cyrff proffesiynol a chyrff cynrychioliadol roi arweiniad polisi clir i ddarparwyr gofal sylfaenol ar oblygiadau methu 芒 thrin siaradwyr Cymraeg 芒 pharch ac urddas, ac effaith methu 芒 chydnabod eu hunaniaeth a'u hanghenion;
Gofyn i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd polisi yn dweud sut, yn ymarferol, y dylid arddangos parch tuag at gleifion Cymraeg sy'n derbyn gwasanaethau gofal sylfaenol;
Fel mater o bolisi, gofyn i Weinidogion Cymru sicrhau bod dewis iaith yn gysyniad ystyrlon a dde毛llir. Yn deillio o hyn, dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad 芒 holl ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol, gymryd camau i amlygu'r gwasanaethau y gall y cyhoedd ddisgwyl eu bod yn rhesymol eu derbyn yn Gymraeg;
Gofyn i Weinidogion Cymru amlinellu pa gamau bwriadant eu cymryd i ddiffinio dewis iaith ac, yn gynyddol, i amlygu'r dewis hwnnw;
Gofyn i Weinidogion Cymru, ar y cyd 芒'r sawl sy'n gyfrifol am wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru, ddarparu arweiniad deallusol ar berthnasedd defnyddio'r Gymraeg i ansawdd gofal, ac yn gysylltiedig 芒 hynny, urddas yr unigolyn.
'Pwysig diwallu'r angen'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y nifer cynyddol o bobl sydd 芒 dementia yng Nghymru, sy'n gyffredin ar draws y byd, a bod yr iaith Gymraeg yn eithriadol bwysig i'r rhai sydd ond yn deall neu'n gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf wrth i'r clefyd waethygu.
"Mae derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o angen i lawer ac mae'n bwysig diwallu'r angen yna fel rhan o ofal sylfaenol.
"Rydym wedi datblygu cynlluniau a pholis茂au i gryfhau gwasanaethau yn y Gymraeg mewn darpariaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae'n bwysig symud y cyfrifoldeb o'r defnyddiwr (i ofyn am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg) i'r gwasanaeth i'w darparu."