91热爆

Yn 么l i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
amgueddfa genedlaethol

Mae 'na gyfoeth o drysorau hanesyddol yma yng Nghymru sy'n dynodi hanes y genedl dros y canrifoedd. Mae nifer fawr o'r rhain i'w gweld ym mhob cwr o'r wlad neu yn rhai o'n amgueddfeydd. Ond dydy pob un o'n creiriau arwyddocaol ddim i'w gweld yma.

Ydy hi'n bryd felly i'r trysorau sy'n gysylltiedig 芒 hanes Cymru gael eu dychwelyd? Dyma rai ohonyn nhw:

Mantell Aur yr Wyddgrug

Mantell Aur yr Wyddgrug yw'r dystiolaeth orau yn Ewrop o waith celf yr Oes Efydd, meddai archaeolegwyr ac mae'n unigryw drwy'r byd.

Daeth gweithwyr oedd yn cloddio mewn chwarel gerrig ar Fryn-yr-Ellyllon yn nhref yr Wyddgrug o hyd i'r fantell mewn bedd yn 1833. Mae hi dros 3,500 oed.

Wedi ei gwneud o aur pur a'i haddurno gyda rhesi patrymog mae'r clogyn wedi bod ym

Llythyr Pennal

Talp arall o hanes Cymru mae haneswyr wedi galw am iddo ddod n么l ydy Llythyr Pennal - un o lythyrau Owain Glynd诺r sy'n cael ei gadw yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc.

Ap锚l sydd yn y llythyr gan Owain Glynd诺r at Frenin Ffrainc, Siarl VI yn gofyn am gymorth i ymladd Brenin Lloegr ac yn dweud y byddai'n ffyddlon i Bab Avignon.

Wedi ei sgwennu mewn Lladin, mae'n s么n am ei gynlluniau i greu Cymru gref ac annibynnol drwy sefydlu eglwys annibynnol, dwy brifysgol a sefydliadau eraill angenrheidiol i wireddu ei weledigaeth. Mae'n cynnwys llofnod a s锚l swyddogol Glynd诺r.

Er bod chwe chopi o'r llythyr ar gael yng Nghymru bellach, gan gynnwys un yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, mae nifer o Gymry eisiau i Ffrainc ddychwelyd y copi gwreiddiol.

Llyfr Coch Hergest

Mae'r llyfr hynafol hwn yn cael ei gyfrif yn un o lawysgrifau canoloesol pwysicaf yr iaith Gymraeg.

Yn dyddio n么l i 1382, mae'n cynnwys straeon o'r Mabinogi a barddoniaeth y Gogynfeirdd.

Ar 么l bod ym meddiant rhai o deuluoedd bonedd Cymru am ganrifoedd cafodd y llawysgrif ei rhoi i Goleg yr Iesu yn Rhydychen ac yno,

Mae 'na s么n bod yr awdur JRR Tolkien wedi astudio Llyfr Coch Hergest a'i fod wedi dylanwadu ar ei gampwaith 'The Lord of The Rings'.

Coron Brenin Enlli

Dros y ffin mewn cas gwydr yn , er ei bod hi ar fenthyg ar hyn o bryd i Storiel, Amgueddfa Bangor. Coron wedi ei gwneud o dun ac efydd ar gyfer 'Brenin Enlli' oedd hon.

Roedd hi'n draddodiad i'r 'brenin' neu'r 'frenhines' gael eu dewis o blith trigolion yr ynys gyda chefnogaeth ei pherchennog, Arglwydd Niwbwrch.

Ar ymweliad 芒 thref Pwllheli unwaith, cafodd y Brenin Love Pritchard ei groesawu gan y Prif Weinidog David Lloyd George fel "brenin o dramor."

Love Pritchard, a fu farw yn 1927, oedd 'brenin' olaf yr Ynys.

Llyfr Teilo

Mae Llyfr Teilo (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Llyfr Sant Chad) yn cael ei gadw yng Nghadeirlan Caerlwytgoed (Lichfield) yng nghanolbarth Lloegr.

Cafodd ei sgwennu yn hanner gyntaf yr 8fed ganrif, ac mae'n cynnwys Efengylau Matthew a Marc a rhan o Efengyl Luc. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain yn yr arddull Geltaidd tebyg i Lyfr Lindisfarne.

Mae sawl cofnod Hen Gymraeg yn y llyfr sy'n trafod materion cyfreithiol yr oes.

Yn 么l i Gymru?

Er bod yna ymdrechion gwleidddyol a diwylliannol wedi bod yn y gorffennol i geisio dod 芒'r creiriau yma n么l yn barhaol i Gymru, mae yna broblemau ymarferol i'w hwynebu. Mae'r Dr John Davies, hanesydd a daearegydd o Landysul yn ymddiddori yn y trysorau yma:

"Mae ein trysorau ni yn hollbwysig i ni fel cenedl ac yn yn tynnu bobl at ei gilydd. Maen nhw'n helpu pobl i ddychmygu'r cyfnod, ac yn siapio sut mae pobl yn teimlo am eu hardal. Mae pethau fel hen llawysgrifau yn taflu golau ar y math o gymunedau a'r bobl yn y casgliadau." meddai.

"Mae'n grefft i gadw'r hen ddogfennau mewn cyflwr da, ac mae'n costio lot o arian. Mae'n cymryd arbenigedd i stopio tamprwydd a chemegolion rhag difrodi dogfennau.

"Weithiau dydy'r arbenigedd ddim yma yng Nghymru (tu allan i'r canolfanau mawr), felly mae rhaid gofyn sut mae delio gyda hynny petai'r trysorau yn dod n么l gatref.

"Mae'r we yn arf pwysig y dyddai hyn i geisio denu pobl i ymweld 芒'r trysorau hyn. Y peth pwysig yw bod yna ddigon yn cael ei wneud i'w diogelu i genhedlaethau a dd锚l."