91热爆

UKIP: Bygwth ymddiswyddo am sylwadau cyd-ymgeisydd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Gareth Bennett gysylltu problemau sbwriel Caerdydd 芒 mewnfudwyr

Mae ymgeisydd UKIP yn etholiad y Cynulliad wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo oni bai bod y blaid yn gweithredu yn erbyn ymgeisydd arall wnaeth gysylltu problemau taflu sbwriel yng Nghaerdydd 芒 mewnfudo.

Mae adran weithredol y blaid yn ymchwilio i'r sylwadau gan Gareth Bennett, prif ymgeisydd UKIP ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru.

Mae Mr Bennett wedi dweud ei fod yn "gwbl ffyddiog" y bydd y blaid yn ei gefnogi.

Ond mae ymgeisydd y blaid yng Nghastell-nedd a Gorllewin De Cymru, Ll欧r Powell, wedi dweud ei fod am ymddiswyddo os nad yw enw Mr Bennett yn cael ei dynnu 'n么l.

"Dydw i ddim eisiau e yno o gwbl gyda'r farn y mae wedi ei ddangos," meddai Mr Powell wrth 91热爆 Cymru.

"Rwy'n teimlo bod llawer o bobl arall yn anghyfforddus gydag ef yn parhau i fod yno - dydi o ddim yn cynrychioli fy marn i a dydi o ddim yn cynrychioli unrhyw beth rwy'n credu ynddo.

"Mae e wedi targedu gr诺p o bobl yng Nghaerdydd heb unrhyw dystiolaeth."

Bydd adran weithredol UKIP yn cyfarfod nesaf ar 4 Ebrill.