Lansiad swyddogol trydydd safle General Dynamics
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn ymweld 芒 safle General Dynamics Land Systems-UK ym Merthyr Tudful ddydd Llun i weld lansiad swyddogol ffatri newydd.
Y bwriad yw y bydd Cerbydau Brwydro Arfog newydd Byddin Prydain yn cael eu rhoi at ei gilydd, eu hintegreiddio a'u profi ar y safle.
Dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru wedi chwarae r么l hollbwysig wrth helpu'r cwmni i sefydlu'r safle.
Ynghyd 芒'r buddsoddiad, cafwyd benthyciad gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau cyfalaf sy'n gysylltiedig 芒'i sefydlu.
Bydd y swm yn creu 250 o swyddi ym Merthyr ac yn diogelu 300 o swyddi yn Oakdale.
589 o gerbydau
Cafodd y cwmni gontract gwerth 拢3.5bn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu 589 o gerbydau AJAX (SCOUT SV gynt).
Yn siarad cyn lansiad y safle newydd ar hen safle Linde, dywedodd Mr Jones: "Rydym wedi magu perthynas waith agos 芒 General Dynamics sy'n un o'n cwmn茂au angori.
"Rydym wedi cefnogi nifer o'i brosiectau allweddol sydd wedi dod 芒 gwaith a thechnoleg newydd i Gymru a chreu cannoedd o swyddi newydd.
"Roedd yn bleser gennym allu cefnogi'r buddsoddiad diweddaraf hwn sydd o bwys strategol ac rwy'n edrych ymlaen at y manteision economaidd mawr y bydd yn eu creu.
"I sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth, fe wnaethon ni bob dim yn ein gallu i weithio gyda General Dynamics o'r cychwyn a chwarae r么l hollbwysig i helpu i sicrhau'r buddsoddiad hwn a'r swyddi ar gyfer Cymru.
"Mae'r newyddion heddiw yn wych i Ferthyr ac i Gymru. Dyma drydydd safle General Dynamics yng Nghymru. Bydd yn codi enw da Cymru fel y lle o'r radd flaenaf i gynnal gwaith gweithgynhyrchu."
Trydydd safle General Dynamics
Ychwanegodd y Prif Weinidog i gerbydau AJAX gael eu dylunio yng Nghymru ar safle ymchwil a datblygu Oakdale, felly mae'n briodol i gamau olaf y gwaith gael eu cymryd yng Nghymru.
Mae General Dynamics yn cyflogi rhyw 550 o bobl 芒 sgiliau uchel yn ei safle yn Oakdale, ac mae 300 ohonynt yn rhan o raglen AJAX.
Cafodd contract gwerth 拢390 miliwn ei ddyfarnu i'r cwmni i roi cymorth i fflyd AJAX tan 2024 a bydd y gwaith hwnnw hefyd yn cael ei wneud ym Merthyr.