Tro pedol ar dorri cyllideb S4C ar gyfer 2016/17
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd S4C yn parhau i gael yr un nawdd ar gyfer 2016/17 ac y cafodd hi yn 2015/16.
Mae hynny yn golygu na fydd y sianel yn cael toriad i'w chyllideb fel y roedd rhai wedi ofni eleni.
Wrth gadarnhau y bydd S4C yn cael 拢400,000 o nawdd oedd disgwyl iddo golli, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Wittingdale y bydd adolygiad hefyd yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.
Bydd hwnnw yn edrych ar "gylch gwaith, trefniadau llywodraethu a chyllid S4C i sicrhau bod y darlledwr yn dal i allu bodloni anghenion cynulleidfaoedd sy'n siarad Cymraeg yn y dyfodol".
Dywedodd y Canghellor George Osborne yn natganiad yr hydref y byddai grant S4C yn cael ei dorri o 拢6.7m i 拢5m erbyn 2020 gan Lywodraeth y DU.
Bydd cyllideb y sianel ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn cael ei benderfynu yn dilyn canfyddiadau'r adolygiad.
'Cyfraniad pwysig'
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns: "Mae S4C yn rhan bwysig a hirsefydlog o gyd-destun darlledu gwasanaeth cyhoeddus cyfoethog y DU.
"Mae'r sianel a'i chynnwys yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ffyniant y Gymraeg a chryfder ein sector creadigol.
"Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae'r llywodraeth hon am sicrhau bod S4C yn parhau i fod yn sianel gref. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu'r ymrwymiad hwn.
"Rydym am weld y sianel yn parhau i ddatblygu er mwyn bodloni anghenion yr oes ddigidol, a datblygu rhai o raglenni mwyaf arloesol, awdurdodol a difyr y DU."
'Cefnogaeth y llywodraeth'
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones wedi croesawu'r cyhoeddiad.
"Mae'r egwyddor o gynnal adolygiad o anghenion y gwasanaeth, cyn i'r cyllido gael ei benderfynu'n derfynol, yn un rydym ni ac aelodau seneddol o bob plaid, wedi bod yn dadlau drosti," meddai.
"Yn y cyfamser, mae rhewi'r cyllid presennol yn arwydd clir a phwysig o gefnogaeth gan y llywodraeth ac rydym yn ei groesawu'n fawr.
"Edrychwn ymlaen, maes o law, at dderbyn manylion hyd a lled ac amseriad yr adolygiad, ac at gyfrannu'n llawn iddo."
Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 91热爆 Cymru
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn fuddugoliaeth i reolwyr S4C sydd wedi lobio ers misoedd i'r llywodraeth gynnal adolygiad annibynnol o gyllideb y sianel.
Mae hefyd yn osgoi embaras pellach i'r Ceidwadwyr Cymreig, ar 么l addo cyn yr etholiad cyffredinol llynedd i amddiffyn cyllideb S4C. Roedd hynny cyn i adolygiad gwariant y Canghellor addo torri 拢1.7m o gyllideb S4C erbyn 2020.
Tra bod adran ddiwylliant Llywodraeth San Steffan yn rhybuddio newyddiadurwyr y gallai'r toriadau ail-ddechrau yn dilyn yr adroddiad, mae nifer o'r rhai sydd wedi ysu am ymchwiliad annibynnol yn hyderus na fydd toriadau pellach ymysg casgliadau'r adroddiad.
Angen ateb "hir dymor"
Dywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Iestyn Garlick ei fod yn falch bod y llywodraeth wedi gwrando ar leisiau rhai gwleidyddion a lleisiau pobl yn y sector darlledu.
"Mi fydd yr adolygiad, rydyn ni'n gobeithio, yn paratoi'r ffordd ar gyfer ateb hir dymor i'r mater o gyllideb cynaliadwy ac yn gwarantu annibyniaeth i S4C," meddai.
Cytuno bod angen ystyried y blynyddoedd nesaf hefyd mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan.
"Nawr mae angen sicrwydd ariannol hir-dymor ar S4C - mae angen fformwla ariannu mewn statud sy'n cynyddu, fan lleiaf, gyda chwyddiant.
"Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf, ac mae'n rhaid sicrhau bod ganddi'r adnoddau, y sicrwydd a'r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn datblygu."