Ffoaduriaid yn cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffoaduriaid cyntaf o Syria i ddod i Gymru wedi cyrraedd Aberystwyth.
Fe gyrhaeddodd gr诺p o 10 ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Mae Ceredigion yn un o bedair sir yng Nghymru sydd wedi dweud eu bod yn fodlon derbyn ffoaduriaid cyn y Nadolig. Y siroedd eraill yw Caerffili, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae'r ffoaduriaid sydd yng Ngheredigion yn cael lloches mewn eiddo preifat yn y dref - nid mewn tai cyngor. Bydd ganddyn nhw hawl i aros ym Mhrydain am bum mlynedd.
Nod llywodraeth Prydain yw rhoi cartref i 1,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn diwedd 2015. Mae disgwyl i tua 50 ddod i Gymru.
Yn Aberystwyth nos Fawrth, mi gafodd cyngerdd gyda ch么r lleol ei gynnal er mwyn croesawu a chasglu arian i'r ffoaduriaid.
Cydweithio
Hyd yn hyn, mae'r ffoaduriaid wedi bod yn byw mewn gwledydd yn agos i Syria ar 么l gorfod ffoi o'r wlad.
Dywedodd Alun Williams, Pennaeth Cefnogaeth Polisi Cyngor Ceredigion, fod nifer o asiantaethau wedi cydweithio yn agos er mwyn cynorthwyo'r ffoaduriaid.
Fe ddywedodd fod hynny'n cynnwys y bwrdd iechyd, yr heddlu a'r sector wirfoddol.
"Mae'r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru wedi bod o gymorth mawr," meddai. "Mae'r Swyddfa Gartref yn talu costau'r cyngor a'r bwrdd iechyd - fe fydd 100% o'r costau yn cael eu had-dalu yn y flwyddyn gyntaf gan ostwng ar 么l hynny."
Ychwanegodd Mr Williams: "Mae'r Swyddfa Gartref wedi bod yn archwilio i gefndir y ffoaduriaid, a hynny er mwyn sicrhau nad oes ganddynt ddaliadau eithafol neu gefndir troseddol.
"Dim ond ar 么l hynny oeddynt yn cael dod yn rhan o'r cynllun - heblaw am hynny byddant ddim yn cael mynediad i'r wlad hon.
"Pobl gyffredin ydi'r rhain, sydd wedi dioddef mewn amgylchiadau anodd iawn, ac sydd wedi gweld a phrofi amgylchiadau na ddylai pobl orfod eu dioddef."