91热爆

Dyfodol g诺yl jazz Aberhonddu yn y fantol?

  • Cyhoeddwyd
Perfformiad JazzFfynhonnell y llun, Tim Dickeson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ginger Baker yng Ng诺yl Jazz Aberhonddu yn 2012

Mae dyfodol g诺yl Jazz Aberhonddu 2016 yn y fantol, wedi i'r hyrwyddwyr ddweud na fyddan nhw'n rhedeg y digwyddiad.

Roedd gr诺p digwyddiadau - Orchard Media, wedi camu i'r adwy i redeg yr 诺yl flynyddol yn 2012, wrth i'r digwyddiad wynebu sawl her.

Dywedodd Orchard ddydd Iau mai "ystyriaethau ariannol" oedd tu 么l i'r penderfyniad.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, oedd wedi buddsoddi 拢100,000 yn 2015 wedi awgrymu na ddylid cynnal yr 诺yl yn 2016.

"Er mwyn ffynnu yn y dyfodol, mae'n glir y byddai'n rhaid i bartneriaid eriall ymuno gyda Chyngor y Celfyddydau i ddarparu buddsoddiad fyddai'n caniat谩u i 诺yl fel hon i ddigwydd" meddai llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau.

"Ryda ni'n derbyn bod hyn yn her fawr mewn cyfnod economaidd anodd. Ond fe fyddai blwyddyn o saib yn 2016 yn rhoi cyfle i ni weld a fyddai partneriaethau felly'n bosibl."

Hwb i economi'r canolbarth

Dywedodd cyfarwyddwr Orchard Media, Pablo Janczur bod y cwmni wedi trio'i orau i barhau, a'i fod yn gobeithio y gall rhywun gymryd yr awenau oherwydd enw da'r 诺yl yn rhyngwladol, a'i fod yn rhoi platfform arbennig i dalent yng Nghymru, yn ogystal 芒 hwb i economi'r canolbarth.

Ond ychwanegodd, "er gwaetha miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, y gwir amdani yw nad yw coffrau'r 诺yl wedi tyfu.

"Nid yw Orchard wedi gallu cymryd t芒l am y gwaith rheoli bob blwyddyn."

Ychwanegodd Mr Janczur, "Allwn ni ddim parhau gyda cholledion felly."