Deddf newydd: Gobaith i ragor?
- Cyhoeddwyd
Mae trefn newydd o roi organau yn dod i rym yng Nghymru am y tro cyntaf ddydd Mawrth - a Chymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu'r fath drefn.
O ddydd Mawrth ymlaen, os nad ydi unigolyn wedi cofnodi penderfyniad i roi organau ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r Gwasanaeth Iechyd, ystyrir nad oes gan yr unigolyn wrthwynebiad i roi organau.
Yr enw ar y drefn newydd ydi 'cydsyniad tybiedig'.
Ar drothwy'r newidiadau, bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda rhai sydd wedi bod yn rhan o bob cam o'r broses.
Croesawu'r newid
Flwyddyn yn 么l bu farw Simon Williams yn sydyn yn 34 oed o ganlyniad i nifer o strociau dioddefodd un noson.
Gan wybod fod Simon wedi eisiau bod yn rhoddwr organau, cytunodd y teulu i roi ei organau ac mae'r weithred honno wedi rhoi cysur mawr i'r teulu meddai nhw.
Mae gwraig Simon, Bev Williams o Benmaenmawr yng Nghonwy yn dweud fod rhoi organau Simon wedi helpu'r broses alaru: "Rydym wedi ond cael profiad cadarnhaol o roi organau ac mae gwybod fod Simon wedi mynd ymlaen i helpu pobl eraill wedi ein helpu'n fawr iawn gyda'n galaru.
"Roedd Simon yn berson elusennol iawn ac rwy'n teimlo'n hynod o falch o'r hyn y mae wedi gwneud i achub bywydau pobl eraill - mae'n syndod beth allwch chi wneud i helpu rhywun arall pan fyddwch yn marw. Os gallai weld drosto'i hun beth mae ei rodd wedi ei wneud ar gyfer pobl eraill, fe fyddai llawn bwrlwm.
'Etifeddiaeth'
Ychwanegodd Bev Williams: "Gall y gyfraith newydd am roi organau ond fod yn beth da. Mae yna gymaint o bobl sydd angen organau. Mae bod yn rhoddwr organ o fudd i bawb - y derbynnydd, chi a'r anwyliaid sydd yn cael ei gadael ar 么l. Os na fyddai Simon wedi bod yn rhoddwr organau, byddai wedi gwneud ei farwolaeth gymaint yn anoddach i ddelio gyda. Trwy roi organau mae ganddo etifeddiaeth", meddai.
Dywedodd Manon, chwaer Simon, o Fangor: "Mae marwolaeth Simon wedi bod yn drasiedi go iawn ar gyfer ein teulu cyfan ac rydym i gyd yn ei golli'n fawr. Ond rydym mor hapus y gallai Simon fod yn rhoddwr organau.
"Roeddwn wedi bod yn gefnogwr o'r gyfraith ers cynigiwyd ychydig flynyddoedd yn 么l, ond doedd gen i ddim syniad bod Simon wedi'i gofrestru fel rhoddwr organau. Gobeithio y bydd stori ein teulu yn dangos i bobl y ffordd y gall rhodd organau wneud gwahaniaeth mawr a phwysleisio'r pwysigrwydd i bobl drafod eu dymuniadau gyda'u hanwyliaid."
Rhestr aros
Mae Calvin Jones o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin newydd dderbyn aren newydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 么l bod ar restr aros am dros flwyddyn.
Dywedodd Mr Jones: "Es i ar restr aros tua June neu July 'flwyddyn ddiwethaf, ac roedden nhw'n activato chi wedyn - a dweud bo fi'n mynd i gael yr operation ar ddechrau August.
"O ni ar dialysis cyn hynny. Ffeindo nhw mas o ni ffili anadlu na dim byd ac roedd fy chest i yn tight. O'n i ffili gwneud dim byd - ac yn cysgu lot. Oedd iechyd fi wedi beni lan at March pan es i ar dialysis. O'n i ffili cerdded ac roedd hi'n galed i godi.
Trawsblaniad
"Ffeindo nhw mas bod kidneys fi wedi mynd a es i lan yma i'r Heath yn June a ffeindo mas bod fy kidneys i wedi mynd ac roedd eisiau transplant arna'i.
"Os ydi popeth yn iawn mae wedi rhoi 10-15 o flynydde' ar fy mywyd i. O'r blaen do'dd dim bywyd 'da fi."
Wrth edrych ymlaen at y newidiadau i'r drefn o roi organau, dywedodd Mr Jones: "Dwi'n meddwl bod o'n beth da a dweud y gwir achos weithie mae pobl wedi marw heb gael chance i wneud popeth. Fel oedd e o'r blaen oedd rhaid i chi fynd ar list - ac roedd e'n galed i gael transplant.
"Neith e lot o wahaniaeth. Bydd lot o bobl dros y wlad i gyd - bydd e'n safio iechyd nhw o byti 10-15 years."
Aros am aren
Un sydd yn aros am aren newydd ers 1991, yn derbyn dialysis dair gwaith yr wythnos am bedair awr bob tro, ac yn croesawu'r drefn newydd ydi Sharon Wynne o Langefni.
Dywedodd wrth 91热爆 Cymru: "Roeddwn i'n gweithio llawn amser ond ers dwi wedi bod ar dialysis dwi ddim yn medru gweithio llawn amser ddim mwy. Dwi wedi blino gormod. Mae'r dialysis yn cadw i fi fynd ond dydw i ddim 100% fel oeddwn i cynt.
"Mae gen i 'potential donor' - fy merch - ond hefo'r ddeddf newydd mi fasa'r ferch yn sbario gorfod mynd drwy'r operation. Faswn i'n lecio cael un gan rhywun arall ond fel mae pethau fel hyn mae pethau am fod i fi.
"Fel hyn dwi'n sbio arni - does na neb yn gwybod beth sydd rownd y gornel, wedyn falle bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i'ch plentyn neu'ch teulu chi. Amser hynny da chi'n ddigon parod i gymryd organ - ond dwi'n meddwl y dylie chi fod yn barod i roi un os yda chi'n barod i gymryd un. Mae'r drefn newydd yn beth da."