Dreifio n么l dros 'Dolig
- Cyhoeddwyd
Tra bydd y rhan fwyaf ohonoch chi yn mwynhau cyfnod bywiog gyda'r teulu dros 诺yl y Nadolig, bydd yr actor Ieuan Rhys yn diddanu cannoedd o blant neu'n rhuthro lan a lawr priffyrdd Prydain.
Dyna'r pris sydd yn rhaid i chi ei dalu, pan 'dy chi'n actio mewn panto yn bell o gartref. Yma, mae Ieuan yn rhoi rhyw syniad i ni i gyd am ei amserlen eleni ac am flynyddoedd sydd erbyn hyn yn bell...'tu 么l iddo!'
Yn y gwaed
Dwi wedi bod yn ffan o bantomeimiau ers yn grwt yn cael gweld s锚r fel Dick Emery, Norman Vaughan, Jack Douglas a Stan Stennett yn y New Theatre, Caerdydd ac wrth gwrs yr anfarwol Ryan a Ronnie yn Theatr y Grand, Abertawe. Hyd yn oed yn mynd i'r theatr pan yn h欧n i weld nifer fawr o bantomeimiau.
Bellach mae'r panto yn ddarn allweddol o'm mywyd a'm gyrfa. Eleni bydda i wedi bod mewn panto am 14 o flynyddoedd. Y cyntaf oedd 'Snow White' yn y Coliseum, Aberd芒r - oedd yn hyfryd gan taw dyna oedd fy theatr leol pan yn tyfu lan. Bernard Latham ('Hollyoaks' a 'Pobol y Cwm') ac Adrian Morgan ('Doctors') oedd s锚r y cynhyrchiad hwnnw.
Dyma'r pedwerydd tro yn olynol i fi weithio i gwmni Evolution sydd yn cynhyrchu wyth panto ledled Lloegr. Y tro cyntaf oedd 'Sleeping Beauty' yn 2012 yng Nghaergaint gyda Gareth Gates a Toyah Willcox. Ges i amser gwych... wedi i'r diwrnod cyntaf ddod i ben.
Mae diwrnod cyntaf pob cynhyrchiad fel diwrnod cynta' ysgol. Rwyt ti'n ofnus ac yn nerfus. Dyma oedd y cynhyrchiad cyntaf erioed i fi lle do'n i ddim yn 'nabod NEB o'r cast na'r criw. Yr hyn sy'n od yw erbyn chwech o'r gloch y noswaith 'ny ro'n ni gyd yn y pyb, a fi'n siarad gyda Toyah am ei anifail anwes - cwningen oedd yn byw o dan ei gwely, a sgwrsio gyda Gareth Gates am y Cymry ro'dd e'n gweithio gyda nhw yn 'Les Miserables'. Siarad fel 'sen i'n nabod nhw gyd ers blynyddoedd.
Gweithio'n galed...chwarae'n galed
Mae tymor panto yn dymor prysur. Ymarfer drwy'r dydd am bythefnos (gan fynd i droi nifer o oleuadau 'Dolig mlaen wedi ymarfer... llefydd fel Whitstable, Deal a Dover). Yna 13 sioe yr wythnos gan gynnwys tair ar ddydd Sadwrn a dwy ar ddydd Sul. Rhywsut 'dych chi ddim yn blino - mae momentwm y sioe a'r hwyl gefn llwyfan yn eich cadw i fynd.
Falle byse Gareth [Gates] yn cynnal parti yn ei d欧 gyda'i gariad Faye Brooks (sy' bellach yn chwarae Kate Connor yn 'Coronation Street') - ond byse pawb yn ffres ar gyfer dwy sioe'r diwrnod canlynol!
Yr hyn sy'n anodd am wneud panto fel hyn dros Dolig yw bod bant o gartre am amser hir a dros yr 诺yl fyd. Gyda Chaergaint daeth y teulu lawr ataf i, a n'ethon ni logi fflat am yr wythnos 'ny. Neis, ond ddim fel bod gartre.
Pan sonies i wrth Cai'r mab hynna'r flwyddyn ganlynol bo fi'n neud panto arall ei ymateb oedd "Oh na! Dim Canterbury eto?" Yn amlwg smo' plant yn lico bod bant o gartre a'u pethe nhw eu hunain dros Dolig.
Dolig oddi cartref
Felly yn 2013 pan es i bant i'r Hawth Theatre yn Crawley i 'neud 'Cinderella' gyda Stephen Mullhern ('Catchphrase') doedd dim cwestiwn yngl欧n 芒 Dolig. Roedd dad yn dod adre.
Roedd hyn yn bosib wrth gwrs, ond yn dair awr a hanner o daith. Ma' wastad dwy sioe'r diwrnod cyn Dolig a dwy ar ddydd San Steffan. Noswyl Nadolig yw diwrnod fy mhen-blwydd. Felly ro'n i ar y llwyfan trw'r dydd a gadael Crawley am 8.30pm er mwyn treulio'r gweddill y diwrnod ar y draffordd. Yna stopio am baned a ham roll i ddathlu mewn gwasanaethau ar y ffordd adre!
Joio'r Dolig (a chysgu lot) gyda'r teulu ac yna gadael mewn da bryd am Crawley bore G诺yl San Steffan.
Do'n i ddim wedi meddwl am y miloedd oedd yn heidio i s锚ls Llundain. Wedi cyrraedd yr M25 ro'n i'n styc... dim byd yn symud. Roedd y sioe am 2pm. Am hanner awr wedi un ro'n i dal yn styc. Ffonio'r cyfarwyddwr. Fi mewn panic. Cyrraedd y theatr am 1.55. Newid i'n nillad yn gloi - dim colur - a mla'n a fi i'r llwyfan.
Doedd y gynulleidfa ddim callach - tan i Stephen Mullhern ddechrau ar ei antics "Where have you been Baron Hardup? Stuck on the M25? Glad you could make the show" ac ati ac ati!
Yeovil oedd tre' 2014 a 'Jack & The Beanstalk' oedd y panto. Braf oedd y ffaith taw dim ond awr a hanner can munud bant oedd Caerdydd - felly doedd teithio n么l ddim yn broblem.
Er hyn dechreues i n么l yn gynnar iawn ar fore dydd San Steffan, gyda dim traffic! Ro'n i n么l yn Yeovil gyda dros ddwy awr i fynd cyn y sioe!
Rhywun eisiau lifft i Gaerdydd?
Eleni dwi yn Sheffield yn 'Aladdin' gyda Chris Gascoyne (Peter Barlow - 'Coronation Street'). Y peth cyntaf wnes i wedi derbyn y swydd oedd edrych ar yr 'AA Route Planner' i weld faint o amser byse fe'n gymryd i gyrraedd Sheffield. Tair awr ac ugain munud o Gaerdydd.
Buodd ffrind i fi yn gwneud panto yn Sheffield yn 2009 a gan nad oedd hi'n dreifio buodd rhaid iddi aros yn ei digs dros Dolig a threulio prynhawn Dolig yn Cafe Rouge gydag un o'r corachod!
Dwi ffaelu dychmygu peidio gweld y bois yn agor eu presantau ar fore Dolig, er bellach mae Llew yn 14 a Cai yn 16! Felly Noswyl Nadolig fe fydda i'n teithio ar hyd yr M1,M42, M5 a'r M4 er mwyn cyrraedd mewn da bryd. O leiaf eleni ma'r ail sioe ar y 24ain yn cwpla am 5.30pm.
Byddai n么l erbyn sioe 2pm ar y 26ain. Mae'n lot o deithio dwi'n gwybod ond chi'n gwybod beth? Ma' fe werth e. Werth e i gael gweithio mewn panto dros Dolig ac yn werth e er mwyn gweld y teulu ddydd Dolig.
Os fyddwch chi lan yn Sheffield rhwng Rhagfyr 4ydd ac Ionawr 3ydd - popiwch mewn i'r Lyceum - fan'na fydda i wedi gwisgo fel Ymerawdwr Tseina! Os y'ch chi moyn lift n么l i Gaerdydd ar y 24ain - gadwch wybod!
Dwi'n mynd i joio'r teithio. O nag wyt ddim! O odw mi ydw i!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2015