91热爆

Cymorth ychwanegol i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
BIBC

Bydd cymorth ychwanegol yn cael ei roi i fwrdd iechyd sydd wedi mynd drwy gyfnod o drafferthion yn y gogledd, wrth iddo wynebu dwy flynedd arall mewn mesurau arbennig.

Bydd t卯m arbennig yn cynnig cymorth i reolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gyrraedd targedau fydd yn cael eu hadolygu bob chwe mis, ac mae'r bwrdd wedi croesawu'r newyddion ddydd Mercher.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething mai'r bwriad oedd cynnig y "math gorau o gefnogaeth ar yr amser iawn".

Bydd prif weithredwr dros dro y bwrdd iechyd, Simon Dean, yn dychwelyd i'w swydd llawn amser fel dirprwy bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru "mewn amser", meddai.

Cafwyd cyhoeddiad yn ddiweddar y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd arall.

Mae'r bwrdd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth y llywodraeth ers pum mis bellach.

Daeth adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd

Ym mis Mehefin daeth yn amlwg fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gynlluniau gwario'r bwrdd iechyd.

Wrth ymateb i'r newyddion am y cymorth ychwanegol, dywedodd yr Athro Peter Higson, Cadeirydd y bwrdd iechyd:

"Ar ran y bwrdd rwyf yn croesawu'r gefnogaeth ychwanegol yma, sydd yn dilyn trafodaethau rhwng ein prif weithredwr dros dro Simon Dean a Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu y bydd hyn yn ein galluogi i adeiladu ar ein rhaglen o welliannau, sydd wedi delifro cynydd mewn nifer o ardaloedd dros y pedwar mis diwethaf.

"Mae gennym nifer o gyfleoedd a sialensiau o'n blaenau, yn cynnwys penodi prif weithredwr newydd, datblygu strategaeth gynhwysfawr i'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru a gwella gwasanaethau iechyd meddwl.

Ychwanegodd: "Mae ein staff wedi ymateb yn bositif iawn i fod mewn mesurau arbennig, ac rwyf yn diolch iddynt am hynny. Rwy'n ffyddiog bod eu hymrwymiad i gynnig y gofal gorau i gleifion yngh欧d 芒 chefnogaeth arbennigol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gwblhau'r gwelliannau angenrheidiol y mae'r bwrdd a phobl y gogledd i gyd am eu gweld."