91热爆

Lily'n blodeuo yn Llundain

  • Cyhoeddwyd
lily beau

Does 'na ddim diwedd i dalentau Lily Beau. Mae'r ferch 16 oed o Gaerdydd yn adnabyddus i wylwyr selog y rhaglen .

Ond mae'r actores hefyd yn hoff iawn o ganu tu allan i ddosbarthiadau Ysgol Bro Taf ac yn ddiweddar fe symudodd lawr i Lundain i fyw gyda'i modryb er mwyn astudio yng Ngholeg Celfyddydau a Cherddoriaeth Dwyrain Llundain (ELAM).

A hithau'n gyfrifol am y g芒n sy'n drac yr wythnos i 91热爆 Radio Cymru yr wythnos hon, bu Cymru Fyw yn ei holi:

Dylanwad y teulu

Mae Mam a Dad yn actorion ac ers i mi fod yn ferch fach, roedd cerddoriaeth a theledu yn llenwi ein t欧.

Mae gan Mam lais anhygoel, er fydd hi byth yn cyfaddef hynny. 'Naeth Dad ddangos mathau gwahanol o gerddoriaeth i fi pan o'n i'n ifanc felly daeth Etta James a Tina Turner yn arwyr i fi. Mae diddordebau fy rhieni wir wedi cael effaith ar y math o gerddoriaeth dwi'n gwrando arno ac yn ei ganu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o arwyr Lily wrth dyfu i fyny, Etta James

Cerddoriaeth jazz yw'r math sy'n rhoi mwyaf o ddiddordeb i fi, ac felly dim ond miwsig Saesneg sy' wedi bod yn bresennol iawn i fy natblygiad cerddorol.

Dwi'n hoff iawn o gantorion megis Elin Fflur, wrth gwrs, ond 'sgen ti unrhyw awgrymiadau o gantorion jazz Cymraeg?

Dwi'n credu mae'n bwysig iawn i mi ysgrifennu cerddoriaeth Cymraeg gan fy mod i eisiau ehangu fy ap锚l.

Dwi'n benderfynol o barhau i ganu caneuon Cymraeg tra 'mod i'n Llundain. Mae 'na gerddoriaeth Cymraeg anhygoel ond mae ganddo enw gwael, yn fy marn i.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lily yn ffan o Elin Fflur, ond mae'n teimlo fod 'na ddim digon o ganu jazz yn y Gymraeg

Digon o gyfleoedd

Mae 'na ddigonedd o gyfleoedd yng Nghaerdydd i berfformwyr hyd at bwynt. Dwi'n credu mae rhaid teithio i ffwrdd o Gaerdydd i greu cysylltiadau ac i gwrdd 芒 chantorion eraill, achos bod 'na ddim gr诺p mor fawr o bobl yn y diwydiant cerddoriaeth i gael 'na.

Mae rhywle fel Llundain yn cynnig mwy o gyfleoedd ar raddfa fawr - mae 'na gynulleidfa eang iawn i gymharu 芒 Chaerdydd.

Cantores ydw i ond 'naeth ffrind mam ddweud wrtha i am y cyfle [i weithio ar Gwaith/Cartref] a nes i jest meddwl 'cer amdani'.

Dwi'n rili mwynhau actio a gobeithio, ha' nesaf, alla i ga'l cyfle i weithio yn y Gymraeg eto a mynd 'n么l gartre' am gyfnod.

Dwi'n really colli ffrindie fi, ond dwi'n dwlu ar fyw yn Llunden!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lily yn perfformio fel 'Leilah' ar y rhaglen 'Gwaith/Cartref' ar S4C