Elis James a chomedi Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Ar 17 Medi bydd y digrifwr Elis James yn recordio ei sioe stand-yp awr o hyd cyntaf yn yr iaith Gymraeg ar gyfer S4C.
Mae Elis, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin, wedi ennill ei blwy' ar y syrcit gomedi yn Lloegr ac mae'n lais cyfarwydd ar sioeau comedi 91热爆 Radio 4 a 91热爆 Radio Wales. Ond a fydd o'n llwyddo i wneud i'r Cymry Cymraeg chwerthin? Bu'n trafod ei her ddiweddara' gyda Cymru Fyw:
Tir newydd
Dim ond yr ail sioe o'i math ar S4C yw hon - y llall oedd sioe ragorol 'Pechu' gan Tudur Owen yn gynharach eleni. Fel rhywun sydd ddim wedi bod yn rhan o fyd comedi yn yr iaith Gymraeg, dim ond nawr rwy'n sylweddoli bod hyn yn big deal.
Magwyd fi mewn teulu Cymraeg, mewn ardal Gymraeg, ac eto pan ddechreuais i berfformio stand-yp yn 2005, doedd ei wneud e' yn y Gymraeg ddim wir yn opsiwn.
I ddweud y gwir dim ond tua chwech o ddigrifwyr Saesneg eu hiaith oedd yn gweithio yn ne Cymru ar y pryd (er, yn 么l un amcangyfrif, erbyn 2015, mae dros 300,000 yn ardal Penybont yn unig, felly... ), a gallai newbie fel fi ddim ond cael tua dwy gig y mis yng Nghaerdydd. Ond beth am gigs iaith Gymraeg?
Dechreuad y stand-yp Cymraeg
Cafodd y sioe stand-yp Cymraeg gyntaf ei chynnal yng Nghaerdydd ym 1991. Cafodd y noson ei threfnu gan Gethin Thomas a'i gwmni, Zeitgeist (sy'n cynhyrchu fersiwn byw a theledu fy sioe i) ond erbyn 2005 doedd dim gigs rheolaidd Cymraeg ro'n i'n ymwybodol ohonyn nhw.
Ie, roedd 'na ambell i gig one off mewn ystafelloedd cefn tafarndai llawn pobl o'r Mentrau Iaith ac un hen ddyn yn eistedd yn y rhes flaen yn ysgwyd ei ben yn feirniadol bob tro byddai un o'r comedians yn dweud geiriau rude. Beth bynnag, doedd dim digon o amser llwyfan i ddatblygu set gomedi Gymraeg.
Ar 么l cwpl o flynyddoedd fel stand-yp symudais i Lundain, ble roedd cyflwr stand-yp iaith Gymraeg, i fod yn onest, yn drychinebus. Tries i wneud fy set Gymraeg yn Kentish Town. Aeth i lawr fel lead balloon. Blydi Londoners.
Dod adref
Wrth ddod yn 么l i Gymru i berfformio, mae'n galonogol gweld bod stand-yp Cymraeg ar i fyny. Yn wir, efallai mai dyma'r unig ran o'r diwylliant Cymraeg sy'n tyfu!
Gyda sioeau teledu fel 'Gwerthu Allan' a 'Pechu', sioeau yn llenwi theatrau ar hyd a lled y wlad, a nawr fy sioe i, mae'n ymddangos bod ymdrech wirioneddol gan y cyfryngau Cymraeg i gefnogi'r grefft.
Y rheswm bod hwn yn gymaint o big deal yw bo' fi wedi dysgu cymaint o wrthwynebiad oedd yna i'r syniad o stand-yp yn y Gymraeg (a'r comed茂wyr) gan garfannau mwy traddodiadol a gwledig y byd Cymraeg ers canol y 90au.
Roedd 'na honiad ar un adeg nad oedd y gynulleidfa Gymraeg eisiau gweld un comed茂wr ar y sgrin am fwy na thair munud, roedd 'na gwynion rhagfarnllyd am acenion comed茂wyr o'r de ddwyrain, a phrun bynnag, doedd stand-yp ddim yn rhan o'r traddodiad Cymraeg.
Bu farw'r ddadl yma yn ystod y Gala Gomedi stand-yp, o flaen cynulleidfa o fil o bobl, ym Mhafiliwn Eisteddfod Bro Morgannwg ym 2012, gafodd ei darlledu wedyn ar S4C.
Erbyn heddiw mae mwy o ddigrifwyr yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg nag erioed o'r blaen. Mae S4C yn cefnogi stand-yp, ac mae stand-yp Cymraeg hyd yn oed wedi ymddangos yn y Babell L锚n!
Felly dyma ni. Dim ond 24 blynedd fer ar 么l iddo fe ddechre, mae stand-yp Cymraeg wedi mynd yn mainstream.
Gallwn ni berfformio setiau sy'n rhedeg yn hirach na thair munud (sy'n drueni i ddweud y gwir, achos mae fy nghof yn ofnadwy) ac mae cenhedlaeth newydd o ddigrifwyr yn lansio gyrfaoedd yn gwneud yr hyn maen nhw'n ei garu ac yn eu hiaith eu hunain.
Ac mae hynny'n big deal.