Gofal lliniarol i blant: 'Angen gwneud mwy'
- Cyhoeddwyd
Mae angen "gwell sylw strategol" gan Lywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd i wasanaethau gofal lliniarol Cymru i blant a phobl ifanc, medd adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad gan Sefydliad Cymreig Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol De Cymru yn honni nad yw gwersi adroddiadau cenedlaethol a lleol y gorffennol wedi'u gweithredu.
Dywed y gwaith ymchwil fod meddygon a darparwyr gofal felly yn "teimlo eu bod yn gweithio yn erbyn anfanteision i fynd i'r afael 芒'r anghenion y maen nhw wedi'u canfod".
Yn 么l amcangyfrifon, roedd angen gofal lliniarol ar 1,054 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystod 2014. O'r rhain, credir bod 10% (105) wedi marw yn ystod y flwyddyn.
'Camarweiniol'
Un broblem sy'n cael ei hamlygu yn yr adroddiad yw bod gwasanaethau gofal lliniarol i blant yn cael eu hystyried ar y cyd 芒 gofal lliniarol i oedolion pan fo penderfyniadau'n cael eu gwneud.
Mae hynny'n gamarweiniol, meddai'r adroddiad, oherwydd nid canolbwyntio ar ddiwedd bywyd mae gofal lliniarol i blant gan amlaf, ond eu helpu nhw a'u teuluoedd i ymdopi 芒 chyflyrau cymhleth sy'n gallu para am nifer o flynyddoedd.
Mae blaenoriaethu gofal diwedd oes, felly, yn golygu nad yw'r gwasanaethau ar gyfer y 90% o blant sydd angen cymorth parhaol yn ddigonol.
Yn 么l yr Athro Marcus Longley, cyd-awdur yr adroddiad a Rheolwr Sefydliad Cymreig Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "mae ffocws polisi wedi symud tuag at ofal diwedd oes yn ystod y blynyddoedd diwetha'.
"Ond mae ein hadroddiad ni'n dangos yn glir bod anghenion plant wedi newid a dylai polisi bellach ganolbwyntio ar eu hiechyd yn yr hirdymor."
'Yr un statws'
Mae'r adroddiad - a gafodd ei gomisiynu gan yr hosbis i blant T欧 Hafan, ac sydd wedi'i ddisgrifio fel adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaethau sydd ar gael - yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys rhoi'r un statws i ofal lliniarol i blant ac oedolion.
Mae hefyd yn galw am linell gyngor 24 awr y dydd i weithwyr yn y maes, a sefydlu targedau perfformiad yn benodol ar gyfer gofal plant.
Er bod "cynnydd sylweddol" wedi'i wneud yn y blynyddoedd diweddar, mae'r adroddiad yn honni bod y "cynnydd hwnnw bellach wedi pallu a bod angen symbyliad newydd".
Daeth croeso i'r adroddiad gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.
"'Dw i'n croesawu ymrwymiad T欧 Hafan i weithio mewn partneriaeth gyda'r Bwrdd Gweithredu Diwedd Oes a Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau allweddol i ofal diwedd-oes plant a phobl ifanc Cymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2015