Dathlu Rosh Hashanah yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Eleni, mae g诺yl Rosh Hashanah yn cael ei chynnal dros 14 a 15 Medi. Mae Zoe Tudur, sy'n Iddewes ac yn byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn siarad gyda Cymru Fyw am yr 诺yl arbennig hon a'i phwysigrwydd iddi hi.
Dechrau newydd
Rydyn ni'n agos谩u at amser pwysig iawn yn y calendr Iddewig, ac yn bersonol, Rosh Hashanah yw fy hoff 诺yl Iddewig.
Dyma'r flwyddyn newydd Iddewig, amser i adlewyrchu a dathlu beth 'dyn ni'n ei obeithio fydd yn ddechrau newydd, melys.
Mae Iddewiaeth yn dilyn calendr y lleuad, felly mae Rosh Hashanah ar ddyddiad gwahanol bob blwyddyn, ond bob tro tua mis Medi, ac yn para' deuddydd. Eleni byddwn ni'n croesawu'r flwyddyn 5776.
Mae 'na nifer o arferion crefyddol 'dyn ni'n cadw atyn nhw yn ystod Rosh Hashanah, ond mae yna hefyd nifer o draddodiadau 'dyn ni'n eu dilyn, a rhain yw'r pethau dwi'n eu hoffi.
Arferion a thraddodiadau
Yn y pen draw, dathlu cread Adda ac Efa mae Rosh Hashanah, y Dyn a'r Ddynes Gyntaf a'u r么l nhw o fewn y ddynoliaeth, fel a nodwyd gan Dd-w (dydyn ni ddim yn ysgrifennu Ei enw yn llawn, rhag ei gymryd yn ofer). Mae felly am y berthynas rhwng D-w a dyn.
Un o'r prif ddefodau yw gwrando ar g芒n y Shofar - sef corn maharen sy'n cael ei ganu yn y Synagog. Mae'r Shofar yn cael ei chwythu wrth i'r haul fachlud ar noswaith olaf Rosh Hashanah fel cydnabyddiaeth o alwad y bobl i'w Brenin, ond hefyd fel cri o edifeirwch gan fod hyn yn nodi'r 10 diwrnod o edifarhau sy'n dilyn Rosh Hashanah.
Bwydydd melys i nodi blwyddyn felys
Fodd bynnag, mae hefyd elfennau eraill sy'n arwyddocaol i mi ar lefel bersonol. I mi, mae Rosh Hashanah yn llawn arogleuon, blasau a thraddodiadau sydd nid yn unig yn f'atgoffa o fy mhlentyndod ond hefyd yn ategu fy hunaniaeth fel Iddewes, sydd yn hynod bwysig i mi.
Yn gyntaf, oherwydd yr adeg o'r flwyddyn, mae yna'n aml goncyrs a mes ar y llawr, sydd wastad yn fy atgoffa o Rosh Hashanah, ac fel yn ystod gwyliau eraill Iddewig, rydyn ni'n dathlu gyda'n teuluoedd a llawer o fwydydd blasus.
Dros y deuddydd, rydyn ni'n bwyta llawer o fwyd melys, sydd yn symbol o'r flwyddyn newydd felys rydyn ni'n gobeithio amdani - rydyn ni'n bwyta afalau gyda m锚l wedi ei daenu drostyn nhw, ac yn rhannu cacennau m锚l 芒 chyfeillion.
Eleni, byddaf i, fy ng诺r a'n plant yn croesawu Rosh Hashanah yn nh欧 fy rhieni. Byddwn ni'n cynnau canhwyllau, llefaru bendithion a bydd fy rhieni yn paratoi pryd ar gyfer ein teulu a ffrindiau er mwyn cael dathliad mawr. Fore drannoeth, byddwn ni'n mynd i'r Synagog.
Y genhedlaeth nesaf
Does dim yn bwysicach i mi na phasio'r traddodiadau hyn sy'n rhan o Rosh Hashanah ymlaen i'm plant.
Nid yw plant Iddewig yn mynd i'r ysgol dros y Dyddiau Mawr Sanctaidd Iddewig, ac fel yr unig Iddew yn ei ysgol Gymraeg, mae fy mab wedi cael caniat芒d arbennig i beidio mynychu dros Rosh Hashanah. Mae'r ysgol yn wych am barchu a deall nad ydyn ni'n cymryd rhan mewn unrhyw arferion crefyddol eraill.
Mae hi'n arfer i ddymuno blwyddyn newydd hapus a iach i bawb, felly fel y dywedwn ni, "L'shana tova".