Dyn wedi marw wedi digwyddiad Penrhyn G诺yr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn 42 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ym Mae'r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn G诺yr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 14:10 brynhawn ddydd Sadwrn.
Y gred yw bod y dyn wedi mynd i drafferthion yn y d诺r, a bu farw yn Ysbyty Treforys yn ddiweddarach.
Cafodd dau berson arall eu cludo i'r ysbyty ond nid yw eu bywydau mewn perygl.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu ar 101.