HPV: Galw am frechu bechgyn a merched
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau a gwyddonwyr blaenllaw wedi galw am gynnig brechiad HPV (human papilloma virus) i fechgyn yn ogystal 芒 merched yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae merched rhwng 12-13 oed yn cael y brechiad er mwyn eu gwarchod gan ganser ceg y groth.
Ond fe ddywed elusennau a gwyddonwyr bod dynion bellach 芒 risg o ddatblygu canser y pen a'r gwddf - a rhai mathau eraill o ganser - sydd hefyd yn cael eu hachosi gan y feirws.
Mae Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd yn rhoi cyngor yngl欧n ag a yw brechiad yn effeithiol ai peidio, ac fe ddywed Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r corff yna i roi cyngor pellach iddynt ar y mater.
Ond mae rhaglen Eye On Wales ar 91热爆 Radio Wales wedi clywed bod nifer o fudiadau gan gynnwys Tenovus Cymru, BMA Cymru a th卯m ymchwil HPV Prifysgol Caerdydd yn bwriadu ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw arni i weithredu ar unwaith.
'Atal y llif'
Jon Antoniazzi o elusen Tenovus sy'n arwain yr ymgyrch, a dywedodd:
"Mae HPV yn achosi 5% o ganser y byd... mae hynny'n anferth a'r dystiolaeth yw y bydd hynny'n cynyddu.
"Fe allai Llywodraeth Cymru nawr fod yn cymryd cam blaengar tuag at atal y llif yma, a dangos ei bod yn cymryd iechyd y cyhoedd o ddifri.
"Rydym yn eu hannog i fynd yn groes i'r meddylfryd canolog a gweithredu nawr."
Eisoes mae nifer o wledydd y byd - gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia a thair talaith yng Nghanada - wedi dechrau brechu bechgyn yn erbyn HPV.
Mae Dr Ned Powell o d卯m ymchwil HPV Prifysgol Caerdydd yn un sydd wedi arwyddo'r llythyr, ac meddai:
"Dyma'r math o fesur y mae'n rhaid i lywodraeth ddatganoledig ei wneud... mae digon o dystiolaeth ac fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud hyn cyn gynted 芒 phosib."
Mewn datganiad i'r 91热爆, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Fe fyddwn yn disgwyl i glywed argymhellion y cydbwyllgor ac yn ystyried y goblygiadau i Gymru o unrhyw newid posib i'r rhaglen frechu HPV."
Bydd rhaglen Eye On Wales yn cael ei darlledu am 12:30 ddydd Sul, 21 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011