Cynydd yn y galw am nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni opera Cymraeg a gr诺p sy'n hyrwyddo cerddoriaeth jazz ymhlith y cwmn茂au sy'n gobeithio denu nawdd blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC).
Mae 94 o gwmn茂au wedi gwneud cais i fod yn rhan o bortffolio'r sefydliadau sy'n cael arian refeniw gan y Cyngor, gan gynnwys 26 o gwmn茂au sydd heb dderbyn y nawdd o'r blaen.
Ar hyn o bryd mae cwmn茂au megis Theatr Genedlaethol Cymru, T欧 Cerdd a Galeri yng Nghaernarfon yn derbyn arian refeniw.
Eleni mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o'r cwmn茂au sy'n derbyn arian cyson. Digwyddodd yr adolygiad diwethaf yn 2010.
Gofynnodd y 94 cwmni am gyfanswm o 拢32.8m ar gyfer 2016/17, sy'n gynnydd o 拢5.6m (+17%) o'i gymharu 芒 ffigwr y flwyddyn gyfredol sy'n 拢27.2m.
O'r cynnydd o 拢5.6m, gofynnodd yr ymgeiswyr newydd am 拢3.1m.
Fis Medi bydd CCC yn cwrdd i benderfynu pa gwmn茂au fydd yn rhan o'r portffolio sy'n derbyn arian refeniw.
Mewn llythyr i'r cwmn茂au sydd wedi gwneud cais, dwedodd CCC ei bod yn dechrau'r broses o asesu'r ceisiadau, ac yn mynd i ystyried unrhyw them芒u neu broblemau pan fydd y Cyngor yn cwrdd mis Gorffennaf.