Allech chi fod yn aelod o'r Orsedd?
- Cyhoeddwyd
Tua mis Mai bob blwyddyn, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi pwy sydd wedi eu dewis i fod yn aelodau newydd o'r Orsedd y flwyddyn honno.
Ond, ydych chi erioed wedi ystyried bod yn aelod o Orsedd y Beirdd, cymryd rhan yn ei seremon茂au lliwgar a dewis enw barddol crand?
Wel, wyddoch chi fod modd i chi wneud hynny trwy sefyll arholiad arbennig yr Orsedd? Ac os llwyddwch chi, gallech chi fod yn paratoi i gael eich urddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ymhen blwyddyn neu ddwy.
Darllenwch ymlaen i gael mwy o wybodaeth am yr arholiad. Yna profwch eich hun trwy roi cynnig ar ambell i gwestiwn oddi ar un o'r papurau arholiad go iawn.
Pwy sy'n cael sefyll yr arholiad?
Yn fras, unrhyw un sy'n ymddiddori yn y celfyddydau. Cofiwch bod aelodau'r Orsedd sy'n gwisgo gwyrdd neu las yn cael eu hurddo trwy radd neu er anrhydedd hefyd. Felly os ydych wedi graddio trwy gyfrwng y Gymraeg, does dim angen sefyll yr arholiad.
Faint o adolygu sydd angen?
Paratowch mewn da bryd! Rhaid pasio dau arholiad yn un o'r meysydd yma:
Barddoniaeth
Cerddoriaeth
Iaith
Rhyddiaith
Er enghraifft, yn y meysydd barddoniaeth a rhyddiaith mae disgwyl i chi brofi gafael ar yr iaith yn ogystal ag ateb cwestiynau am gyfrolau neu lyfrau penodol.
I'r bobl gerddorol mae meysydd arbennig hefyd i delynorion, rhai sy'n ymddiddori mewn cerdd dant neu ganu'r utgorn.
Pryd mae'r arholiadau yn cael eu cynnal?
Mae'r arholiadau'n cael eu cynnal ar y Sadwrn olaf yn Ebrill bob blwyddyn mewn canolfannau yn ne a gogledd Cymru.
Beth dwi'n ei gael am lwyddo yn yr arholiad?
Cewch Dystysgrif Aelodaeth, ynghyd 芒'r fraint o berthyn i sefydliad unigryw sy'n rhan annatod o'r Eisteddfod Genedlaethol.
Ydy'n bosib gweld enghreifftiau o'r cwestiynau?
Dyma gyfle i brofi eich hun a rhoi cynnig ar ambell i gwestiwn o un o'r arholiadau 'Iaith'.
Rhowch gynnig arni!
Defnyddiwch yr ymadroddion canlynol mewn brawddeg i ddangos ystyr y gair neu'r ymadrodd yn glir.
i) diwedd y g芒n yw'r geiniog
ii) mewn gwth o oedran
iii) mynd yn rhemp
iv) dan ei sang
v) dal pen rheswm
vi) fel lladd nadroedd
Mae dau gamgymeriad ym mhob un o'r wyth brawddeg ganlynol. Gall fod yn wall cystrawen, treiglo, neu'n idiom Seisnigaidd. Ysgrifennwch yr wyth brawddeg yn gywir, gan ddefnyddio ffurfiau cywir yn lle'r gwallau.
i) Dydy o heb ateb dy cwestiwn di.
ii) Trwy lwc, doedd y lleidr yn methu cael i mewn trwy'r ffenest.
iii) Ar 么l mynd i'r deintydd ddoe, mae Rhiannon yn teimlo'n fwy gwell heddiw.
iv) Os mae problem yn codi yn y gwaith paid 芒 bod swil i ofyn am help.
v) Roedden nhw'n dangos Mr Morris y dref cyn iddo derbyn y swydd.
vi) Roedd neb yn deall yn iawn ble roedd y wraig yn dod o.
vii) Mae dal cyfle i glywed y ddau g芒n ar y rhaglen heno.
viii) Pe cawn ni'r caniat芒d erbyn y Pasg, byddwn ni'n rhoi'r rheolau newydd mewn lle cyn mis Awst.
Dylai fod 10 treiglad yn y darn canlynol. Ond nid yw'r awdur wedi rhoi'r un i mewn. Ysgrifennwch y paragraff eto gan roi'r 10 treiglad i mewn yn gywir.
Pan cyrhaeddodd Branwen y swyddfa y bore hwnnw teyrnasai rhyw tawelwch rhyfedd yno. Roedd dau neu tri o'r staff wrthi ar eu cyfrifiaduron, ond syllai'r lleill yn llipa o'u blaen. Yn cornel y stafell edrychai Rhodri James allan trwy'r ffenest mawr fel dyn wedi ei parlysu.
Ni dywedodd neb gair wrth Branwen. Eisteddodd hi wrth y desg hir wrth ochr ei cyfaill Nia.
'Be sy'n bod?' sibrydodd Branwen wrthi.
'Mae Scott wedi cael y sac.'
Rwy'n mynd amdani! Sut dwi'n cychwyn arni?
Mae a chyfarwyddiadau llawn am y gwahanol feysydd ynghyd 芒'r amodau a rhestr y llyfrau gosod ar gael trwy gysylltu 芒 Threfnydd yr Arholiadau Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon) wgwyn.lewis@btinternet.com
Pob lwc!
Cliciwch yma i wirio'ch atebion.
(Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2015)
Hefyd o ddiddordeb: