Anni LlÅ·n yw Bardd Plant Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyflwynwraig deledu a'r awdures, Anni LlÅ·n, wedi cael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru ar Faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili.
Yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ger Pwllheli, aeth i Ysgol Gynradd Pont y Gof, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Cymraeg, cyn dilyn cwrs ôl-radd yn arbenigo mewn ysgrifennu creadigol.
Enillodd wobr Prif Lenor yr Urdd yn Eryri 2012 gyda gwaith ar y thema Egin. Mae hi wedi cyhoeddi nofel antur i blant o'r enw 'Asiant A', a 'Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig' fel rhan o Gyfres Lolipop o lyfrau.
Mae hi'n wyneb cyfarwydd i blant a phobl ifanc Cymru'n barod, ar ôl iddi dreulio pum mlynedd yn ei swydd yn cyflwyno'r rhaglen Stwnsh ar S4C.
'Tasg a hanner'
Wrth edrych ymlaen at y gwaith o ymweld ag ysgolion ymhob cwr o Gymru fel rhan o'i swyddogaeth fel Bardd Plant Cymru, dywedodd Anni LlÅ·n: "Bydd rhaid cofio fod pob plentyn a phob ysgol yn wahanol.
"Dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd bod rhaid meddwl ar dy draed wrth drin â chriw newydd sbon o blant ac amrywio'r dull o gyfathrebu.
"Mi fydd hynny'n dasg a hanner wrth deithio i gymaint o ysgolion gwahanol dros Gymru, yn ogystal â chael pawb i ddeall fy acen Pen Llŷn."
Cynllun ar y cyd yw Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Uned y Gymraeg yn y Gymuned, Llywodraeth Cymru.
Mae rhestr faith o feirdd wedi derbyn yr anrhydedd o fod yn fardd plant, Caryl Parry-Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Dewi Pws, Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.
Ychwanegodd Anni: "O edrych yn ôl ar y beirdd talentog sydd wedi gwneud y swydd hon yn barod, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n eithaf nerfus, ond dwi hefyd yn hynod gyffrous mod i'n cael y fraint o fod yn Fardd Plant Cymru".