Pwy sy'n gwisgo'r trowsus?
- Cyhoeddwyd
Wrth edrych ar hanes, ry' ni'n gyfarwydd 芒 chofnodi'r newidiadau cyfreithiol a llywodraethol. Ond beth am ddillad?
Y curadur ffasiwn Eleri Lynn, y curadur hanes cyfoes a chymunedol Elen Philips a'r hanesydd Dr Elin Jones sy'n cymryd cipolwg ar ddylanwad ffasiwn ar hawliau merched.
Diwedd Oes Fictoria
Roedd haen ar 么l haen o ddillad yn amgylchynu menyw yn y cyfnod hwn. Roedden nhw'n gwisgo sgertiau llaes, llawer o beisiau a stais o dan y peisiau yna.
Er gwaetha'r ffaith fod menywod yn y cyfnod yn gwneud gwaith peryglus a thrwm iawn yn y gweithfeydd haearn ac ar wyneb y pyllau glo, mi roedden nhw'n dal i wisgo sgertiau hir, brethyn cartref.
Dechrau'r Ugeinfed Ganrif
"Pan oedd merched yn dechrau hawlio'r bleidlais drwy fudiad y Suffragettes," medd Eleri, "cafodd rhai eu harestio am wisgo trowsus. Y cyhuddiad oedd traws-wisgo a'u bod yn anfoesol.
"Roedd hwn i'w weld yn hysbys drwg iawn i'w symudiad. Felly, o'r pwynt yna, nes y cafodd merched y bleidlais, fe drodd y symudiad at ddillad mwy ceidwadol, mwy derbyniol, i drio g'neud y pwynt nad oedden nhw'n hollol radical.
"Ond trowsus oedd fflachbwynt y newid a'r dewis yna."
Y Rhyfel Byd Cyntaf
"Mi oedd y chwyldro milwrol a chymdeithasol yn golygu chwyldro ym mywydau menywod hefyd," yn 么l Elen Phillips, "am eu bod yn cymryd eu lle yn y ffatr茂oedd, ar y bysus, ar y trenau.
"Ond mewn gwirionedd, fe ddychwelodd yr hen drefn wedi diwedd y brwydro. Diswyddwyd menywod o'r gweithle ac i ryw raddau fe ddaeth y status quo yn ei 么l."
"O ran trowsus yn benodol, prin iawn oedd y menywod hynny yn gwisgo'r trowsus wedi'r rhyfel. Er bod pobl yn gweld menywod y dosbarthiadau uwch yn gwisgo trowsus llac i chwarae golff a hamddena yn y 20au a'r 30au, doedd y menywod hyn ddim yn adlewyrchu ffawd y mwyafrif."
Y 20au a 30au
Mi oedd teithiau cerdded yn boblogaidd iawn a dyma menywod yn gwisgo trowsus, siorts neu 'plus fours' i gerdded. "Ac mae hynny wedyn yn peri newid i'r agwedd at wisgo trowsus," medd Dr Elin Jones.
Roedd y sinema hefyd yn boblogaidd iawn, ac roedd gweld cymeriadau ar y sgr卯n fel Ginger Rogers yn ddylanwadol: "Mi roedden nhw'n gwisgo trowsus hir a llaes. Does dim dwywaith fod y lluniau hynny yn dylanwadu'n fawr ar y menywod eraill oedd yn eu gwisgo nhw."
Yr Ail Ryfel Byd
Gwisgo trowsus mae Mary Bott, 91 oed, wedi ei wneud erioed:
"Yn 1944 fe ges i wybod y gallen i weithio ar y tir", meddai, "Beth o'n i'n gwisgo oedd overalls; bib and brace o'n nhw'n galw nhw.
O'dd rheiny'n khaki, ac o'n nhw'n itha stiff. Ond os o'n i'n mynd i rwle fel concert, falle byse'n i'n gwisgo'r iwnifform arall. Dwi'n dal i wisgo trowsus heddiw."
Y 50au a'r 60au
"O'dd trowsus fel kapri pants a pedal pushers yn boblogaidd iawn gyda'r ieuenctid," medd Dr Elin Jones, "Ond eto, do'dd e ddim yn dderbyniol mewn llefydd ffurfiol.
"Y 50au oedd oes mawr Christian Dior gyda'r sgertiau enfawr, hollol fenywaidd. Ond gyda'r chwyldro ieuenctid yn y 60au, dyma ddegawd poblogrwydd y trowsus i fenywod."
"Yn 1966 fe gyflwynodd Yves Saint Laurent un o gasgliadau mwyaf pwysig yr ugeinfed ganrif sef, Le smoking. Yn syml, tuxedo menywod gyda throwsus. Roedd hyn yn hollol chwyldroadol. O'dd menywod moyn gwisgo trowsus."
Ffeministiaeth a diwedd yr ugeinfed ganrif
Dyma gyfnod y symudiadau cymdeithasol. Fel y disgrifia Dr. Elin Jones roedd pobl yn "gwthio tuag at ryddid a rhyddid i bawb. Roedd menywod yn mynd i lefydd nad oedd yn caniat谩u trowsus, fel Ascot a llefydd y sefydliad, i wneud pwynt a phrotestio.
"Mi oedd pobl yn defnyddio dillad i drio gwneud protest gymdeithasol."
"Mae Hillary Clinton yn enwog am wisgo siwtiau trowsus. Ond mae'r ffaith ein bod ni'n dal i nodi hwnna yn y ganrif yma yn dweud tipyn am y ffordd y'n ni'n disgwyl i fenywod wisgo mewn swyddi pwerus neu gyhoeddus," yn 么l Eleri Lynn.
"Hi oedd y fenyw gynta' i wisgo trowsus mewn llun swyddogol ohoni hi a'i g诺r yn y T欧 Gwyn.
"Ond chi dal ddim yn gallu gwisgo trowsus fel menyw i'r Henley Regatta!"
Cymryd cam yn 么l?
I ba raddau felly ydyn ni wedi symud ymlaen yn yr unfed ganrif ar hugain?
Yn 么l y Dr Elin Jones, "O edrych o' nghwmpas i, rwy'n meddwl fod menywod yn dal i gaethiwo'u hunain mewn dillad gwbl gwbl anymarferol.
"Ac mae'r hyn oedd wedi dechrau i fod yn rhyddid i fenywod, sef y trowsus, wedi troi yn rhywbeth lle chi'n gorfod gwisgo dillad yn dynn ofnadw, i ddangos eich si芒p chi'n gwbl rywiol."
Mae Eleri Lynn yn cytuno: "'Wi'n meddwl bod e'n deg i 'weud ein bod ni ddim wedi symud ymlaen cymaint, a falle y'n ni bron yn cymryd cam yn 么l.
"'Da ni yn cymryd y dewisiadau 'da ni'n 'neud am ein dillad yn ganiataol ac felly dydyn ni ddim yn brwydro cymaint ag unwaith oedden ni.
"Yn y 60au a'r 70au, a hyd yn oed y 20au a'r 30au, roedd pobl yn sylweddoli pa mor symbolic oedd beth oedden nhw'n ei wisgo. Ac mi oedden nhw'n defnyddio'r symbolau yna i 'neud pwynt gwleidyddol.
"Nawr falle ry'n ni 'di anghofio fod gyda ni'r dull yna o neud protest, a defnyddio'r ffordd ry' ni'n edrych i fynegi ein hun."