91热爆

Taro plant: Galw am bleidlais rydd yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
taro plant

Mae AC Llafur wedi galw ar ei phlaid i ganiat芒u pleidlais rydd yn y Cynulliad ddydd Mawrth allai arwain at wahardd taro plant.

Mae Julie Morgan wedi cynnig newid i'r mesur Trais yn Erbyn Merched, er mwyn dod 芒 diwedd i'r defnydd o 'roi cerydd' fel yr amddiffyniad cyfreithiol dros daro plant.

Mae'r mater wedi achosi tensiwn o fewn y gr诺p Llafur yng Nghaerdydd, wrth i Lywodraeth Cymru ddweud na fydd y gyfraith yn newid cyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae Julie Morgan yn dweud y gallai'r newid hwn "wneud bywyd yn fwy diogel i blant yng Nghymru".

Yr wythnos ddiwethaf, fe alwodd Archesgob Cymru, Comisiynydd Plant Cymru ac arweinydd Cyngor Caerdydd am bleidlais rydd ar wahardd taro plant.

Mae gan gynnig Julie Morgan gefnogaeth trawsbleidiol, ac mae AC Gogledd Caerdydd yn mynnu fod y mesur Trais yn Erbyn Merched yn fan da i gynnwys gwaharddiad ar daro plant.

Os nad yw Llafur yn caniat芒u'r bleidlais rydd, gallai Ms Morgan bleidleisio o blaid ei chynnig hi i wahardd rhieni rhag taro eu plant - gan anwybyddu'r chwip Llafur yn y broses.