Cyfri cost cynyddu nifer ACau
- Cyhoeddwyd
Byddai cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 80 yn costio hyd at 拢9m yn y flwyddyn gyntaf, yn 么l adroddiad.
Mae Comisiwn y Cynulliad - sy'n gyfrifol am weinyddu swyddfeydd Aelodau Cynulliad - wedi bod yn cyfri'r gost wrth i rai alw am gynyddu eu niferoedd.
Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi galw yn y gorffennol am gynyddu nifer yr ACau i 80, ac mae Comisiwn trawsbleidiol y Cynulliad wedi cydsynio 芒 hynny.
Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu y byddai cynnwys 80 AC yn costio 拢7-9 miliwn yn y flwyddyn gyntaf, ac y byddai 100 AC yn costio 拢14-拢17 miliwn.
Ar hyn o bryd, mae 60 aelod yn costio oddueutu 拢50m y flwyddyn.
Yn ogystal, mae Comisiwn y Cynulliad yn galw am i'r p诺er i bennu maint y Cynulliad gael ei drosglwyddo o San Steffan i Fae Caerdydd.