Iechyd Meddwl: 'Siarad wir yn helpu'
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy gêm Cymru yn erbyn Awstralia, y cyntaf o gyfres ryngwladol yr hydref, mae'r bartneriaeth iechyd meddwl, Amser i Newid Cymru, wedi lansio ymgyrch newydd i helpu dynion i gefnogi ffrindiau sy'n wynebu problemau iechyd meddwl, a mynd i'r afael â'r stigma ynglŷn ag iechyd meddwl.
Bydd yr ymgyrch #byddynffrind yn rhedeg drwy gydol gemau rygbi rhyngwladol yr hydref gan annog dynion ar draws Cymru i ddefnyddio rygbi fel esgus i gysylltu â ffrind, cyfarfod, a siarad am iechyd meddwl.
Mae 85% o ddynion yng Nghymru wedi dweud y byddan nhw'n troi at ffrindiau neu deulu am gymorth pe bae ganddyn nhw broblem iechyd meddwl.
Ond mae bron i 60% o ddynion yng Nghymru gyda phroblemau iechyd meddwl wedi dweud eu bod nhw'n newid eu hymddygiad neu osgoi sefyllfaoedd, oherwydd eu bod nhw'n meddwl y byddai eu ffrindiau yn eu trin yn wahanol.
Bydd chwech o bobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch, a hynny gyda ffrind sydd wedi eu cefnogi.
'Siarad wir yn helpu'
Un o'r parau hynny yw Gavin Walker, 34 oed o Bontyclun, a Gareth,"ffrind sydd wedi bod yn gefnogol iawn iddo, ac sy'n barod i drafod os ydi Gavin angen clust".
Mae Gavin yn dioddef o iselder ers pan oedd yn ei arddegau, ac fe aeth i weld meddyg ddwywaith yn 2004 a 2006 cyn iddo gael diagnosis ym mis Awst 2011.
Dywedodd Gavin ei fod, erbyn 2011, "mor isel bryd hynny, fedrwn i ddim fod wedi mynd llawer yn is. Ro'n i'n meddwl am ladd fy hun."
Wedi iddo weld meddyg yn 2011, "roedd pethau'n eitha' araf o ran triniaeth. Ges i dabledi, ond roedd 'na restr aros hir i weld therapydd".
Wrth ddisgrifio'r profiad o fyw gydag iselder, dywedodd Gavin: "Does 'na ddim cure… Dw i jysd yn gorfod rheoli fe."
Mae'n llwyddo i reoli ei iselder 90% o'r amser erbyn hyn, "ond yn y 10% 'na - ma' siarad wir yn helpu.
"Ma' siarad 'da ffrind yn wahanol i siarad â doctor. Ma' nhw'n dy 'nabod di'n well, ma' 'na banter, ma' nhw'n agosach ata ti. Mewn ffordd, mae e'n fwy personol ac agored".
Mae Gavin yn dweud iddo fod yn "lwcus iawn - mae gen i ffrindiau, teulu a gwaith sy'n gefnogol iawn, ond nid pawb sydd mor lwcus. Ma' 'na stigma yn bendant, ac mae hyn yn stopio pobl rhag cyfaddef - ma 'nhw ofn bod gwendid arnyn nhw, neu ofn cael eu trin yn wahanol".
Dywedodd Gavin ei fod yn falch iawn i fod yn rhan o'r ymgyrch, gan ei fod o'n brawf o'r hyn y gall siarad â ffrindiau ei gyflawni.
Gwta' dair blynedd yn ôl, roedd o'n ystyried lladd ei hun, a nawr mae'n gallu ymdopi â'r cyflwr bron drwy'r amser.
'Bod yn ffrind'
Bydd yr ymgyrch yn cael ei chefnogi gan 250,000 o fatiau cwrw sydd wedi eu dosbarthu i dafarnau ar draws Cymru, gyda'r neges syml 'bydd yn ffrind' gan gychwyn sgwrs am iechyd meddwl.
Dywedodd Anthony Metcalfe, rheolwr rhaglen Amser i Newid Cymru: "Pan mae rhywun yn wael gyda phroblem iechyd meddwl, yn aml gall eu ffrindiau deimlo'n ansicr ynglŷn â sut i drafod y mater.
"Gall y camddealltwriaeth ynglÅ·n ag iechyd meddwl achosi i bobl gefnu ar eu ffrind ar amser pan mae'r person hwnnw angen ei ffrindiau fwy nag erioed.
"Gall hyn achosi i'r person deimlo'n unig ac yn anfodlon gofyn am gymorth.
"Does dim angen i bobl fod yn arbenigwyr neu wneud rhywbeth arbennig er mwyn helpu rhywun gyda phroblem iechyd meddwl - yr unig beth sydd angen ei wneud yw bod yn ffrind.
"Yr unig beth sydd angen ei wneud ydi parhau i wneud y pethau pob dydd maen nhw eisoes yn ei wneud - anfon neges destun, cyfarfod am goffi neu fynd i wylio'r gêm.
"Gall hyn gael effaith fawr ar eu hymdrechion i wella."