91热爆

Galw am fwy o ACau

  • Cyhoeddwyd
Rosemary Butler
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Fon. Rosemary Butler: Angen i lais Cymru gael ei glywed yn glir

Mae Llywydd y Cynulliad wedi ategu ei galwad am gynnydd yn nifer aelodau'r cynulliad er mwyn "adlewyrchu cyfrifoldebau ychwanegol y Cynulliad a chyfrifoldebau posibl yn y dyfodol."

Fe wnaeth y Fonesig Rosemary Butler ei sylwadau wrth gyflwyno ei gweledigaeth gyfansoddiadol mewn araith yn y Senedd nos Fercher.

Dywedodd ei bod yn ymateb yn uniongyrchol i ddadl yn y Cynulliad a oedd yn edrych ar sut y gallai corff deddfu Cymru efelychu'r nifer uchel a bleidleisiodd yn refferendwm yr Alban.

Yn ei haraith dywedodd y dylai San Steffan sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn glir wrth edrych ar batrwm cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol.

Dywedodd y dylai hyn gynnwys yr angen i gryfhau gallu'r Cynulliad i graffu ar ddeddfwriaeth a sicrhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru.

Roedd tair thema allweddol yn ganolog i'w gweledigaeth:

  • Ei gwneud yn haws i bawb ddeall y pwerau sydd gan y Cynulliad drwy symud at fodel pwerau a gedwir yn 么l, fel yr Alban;

  • Sofraniaeth i'r Cynulliad fel na all San Steffan benderfynu ar ddyfodol y Cynulliad, neu reoli penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad a'r trefniadau etholiadol;

  • Cynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad i adlewyrchu cyfrifoldebau ychwanegol y Cynulliad a chyfrifoldebau posibl yn y dyfodol.

"Pan fyddwn ni wedi cael pwerau ychwanegol sy'n glir a dealladwy, bydd pobl eisiau ymwneud fwyfwy 芒'r Cynulliad a byddan nhw am i'w lleisiau gael eu clywed, drwy gyfrannu at ein gwaith yma yn y Cynulliad a thrwy bleidleisio adeg etholiad," meddai.

Ychwanegodd y Llywydd na fyddai newid cyfansoddiadol yn ddigon, wrtho'i hun, i sicrhau "democratiaeth iach".

Mae'r Fonesig Rosemary Butler wedi gwneud cyfathrebu 芒 phobl ifanc yn ganolog i'w strategaeth.

"Wrth symud ymlaen yn sgil refferendwm yr Alban, ac fel rhan o'n gwaith cyfathrebu 芒 phobl ifanc, byddwn yn cynnal sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc Cymru, i drafod a ddylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16," meddai.

Ond byddai unrhyw newid i'r oedran pleidleisio yng Nghymru yn dod o ganlyniad i benderfyniad T欧'r Cyffredin yn hytrach na'r Cynulliad Cenedlaethol.