Cynllun datblygu stadiwm Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Tai Ceredigion wedi arddangos cynlluniau ar gyfer ailddatblygu stadiwm Coedlan y Parc, cartref t卯m p锚l droed Aberystwyth.
Y bwriad yw codi eisteddle newydd, 80 o fflatiau a gosod cae artiffisial yn lle'r glaswellt presennol.
Y gymdeithas tai sy'n cael hyd i'r arian ar gyfer y prosiect a fydd yn cynnwys cymysgedd o fflatiau i'w prynu a'u rhentu.
Nos Fawrth roedd cyfle i'r cyhoedd weld arddangosfa a chlywed am y datblygiad cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn ffurfiol.
Dechreuodd y syniad ar 么l i glwb p锚l-droed Aberystwyth ddweud ei fod am newid ei gae o laswellt i un artiffisial 3G.
Yna fe wnaeth y clwb gysylltu gyda'r Gymdeithas Tai yngl欧n ag ehangu'r prosiect.
Derbyn sylwadau
Y nod nawr yw adfywio'r stadiwm gyfan i gynnwys eisteddle mwy, adnoddau cymunedol ac 80 o fflatiau.
Bwriad yr arddangosfa, yn 么l Llyr Edwards, cyfarwyddwr gwasanaethau eiddo Cymdeithas Tai Ceredigion, oedd cael ymateb pobl leol i'r cynllun.
"Yn rhan o'r datblygiad mae yna ganolfan gymunedol ac mae yna ffocws mawr wedi bod ar hwnnw am fod angen canolfan gymunedol.
"A be' 'da ni'n gobeithio derbyn hefyd ydi sylwadau pobl yngl欧n 芒 be' maen nhw'n gobeithio ei gael gan ganolfan o'r fath.
"Hefyd o ran sylwadau yngl欧n 芒'r cae a'r stand ac adnoddau yngl欧n 芒'r clwb p锚l-droed.
"Ac yn drydydd o ran yr unedau byw, 'da ni yn gofyn i bobl am eu barn am edrychiad yr adeilad ac yn gofyn i bobl ddangos diddordeb yngl欧n 芒 phrynu neu rentu'r unedau."
Mae Cymdeithas Tai Ceredigion yn cwblhau'r gwaith o gael yr holl arian ynghyd i dalu am y prosiect - tua 拢13 miliwn.
Yna bydd cais cynllunio'n cael ei gyflwyno ym mis Awst ac os yw'n cael ei gymeradwyo fe allai'r gwaith adeiladu ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.
Yn y cyfamser bydd t卯m Aberystwyth yn parhau i chware ar laswellt Coedlan y Parc - gan ddechrau gyda'r g锚m nesaf yn erbyn Derry City o ogledd Iwerddon yng nghynghrair Ewropa.