Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Grant Loteri 拢2.8 miliwn i gartref Hedd Wyn
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi gwobrwyo 拢2.8 miliwn i ddatblygu cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Yr Ysgwrn.
Mae cartref y bardd, a gollodd ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhestredig Gradd II*.
Magwyd Ellis Humphrey Evans, sydd yn fwy adnabyddus gan ei enw barddol Hedd Wyn, yn Yr Ysgwrn ac ysgrifennodd gerdd enwog am erchylltra rhyfel.
Bydd grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael ei roi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fydd yn gwarchod Yr Ysgwrn, safle a ysbrydolodd nifer o weithiau Hedd Wyn.
Bydd hefyd yn diogelu casgliad yr Ysgwrn, gan gynnwys "Y Gadair Ddu", sef cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 a wobrwywyd iddo wedi ei farwolaeth ar faes y g芒d yng nghaeau Fflandrys.
Gellir darganfod mwy am brosiect Yr Ysgwrn mewn ar wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Dr Manon Antoniazzi, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae'r Ysgwrn yn rhoi darlun byw inni o fywyd yng Nghymru wledig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'n gofeb nid yn unig i Hedd Wyn, ond i genhedlaeth o ddynion ifanc Cymreig a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel.
Diogelu dyfodol Yr Ysgwrn
"Bydd y prosiect yn diogelu dyfodol Yr Ysgwrn ac etifeddiaeth Hedd Wyn gan sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall pwysigrwydd y bardd Cymreig hynod hwn a'i waith."
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams: "Mae'r Ysgwrn a'r dirwedd o'i amgylch wedi ysbrydoli nifer o gerddi mwyaf adnabyddus Hedd Wyn ac mae'n parhau i ysbrydoli pobl ledled y byd sydd wedi eu cyfareddu gan stori Hedd Wyn a threftadaeth hynod Yr Ysgwrn.
"Ein nod yn awr yw sefydlu Yr Ysgwrn fel cyrchfan diwylliannol arloesol, fydd yn cyfleu negeseuon am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel i bobl yn Eryri, Cymru a'r byd.
"Mae hefyd yn ein caniat谩u i ddiogelu casgliad unigryw o arteffactau ac archifau Yr Ysgwrn, yn ogystal 芒 darparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg a dehongli i ymwelwyr mewn modd sy'n cydnabod sensitifrwydd y safle hynod a hanesyddol hwn."
Derbyniodd ymdrechion i ddiogelu dyfodol y safle gyhoeddusrwydd yn 2009, wedi i nai Hedd Wyn, Gerald Williams, nodi ei bryderon am ddyfodol Yr Ysgwrn.
Dywed Mr Williams, sy'n 85 mlwydd oed: "Mae cadw drws Yr Ysgwrn ar agor yn fodd o gadw cof fy ewythr yn fyw, ac er fy mod wedi croesawu ymwelwyr ar bob achlysur, nid oeddwn yn sicr y byddai modd parhau i wneud hyn yn y dyfodol.
"Mae pryniant Yr Ysgwrn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r grant a roddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi sicrhau y bydd y drws yn parhau ar agor ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol er mwyn iddynt dalu teyrnged a dysgu am Hedd Wyn."