91热爆

Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth i barhau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

PANTYCELYN ARLEIN

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) er mwyn datblygu cynllun busnes fydd yn golygu parhad Neuadd Pantycelyn fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant.

Bydd y cynllun yn cynnwys datblygu opsiynau ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg, yn 么l datganiad y brifysgol.

'Canolbwynt'

Yn 么l y brifysgol, bydd y Ganolfan Gymraeg a Diwylliant yn ganolbwynt i'r gymuned Gymraeg, gan gynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach yn y dref.

Y bwriad oedd symud y myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais ryw hanner milltir o'r neuadd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu nifer o fyfyrwyr Aberystwyth yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn.

O ganlyniad fe fu protestiadau chwyrn gan nifer o fyfyrwyr oedd am i Neuadd Pantycelyn barhau fel llety i fyfyrwyr Cymraeg.

Dadl UMCA oedd na fyddai'r fflatiau yn darparu'r math o awyrgylch oedd ei angen er mwyn cynnal cymuned Gymraeg ffyniannus.

Dywedodd Mared Ifan, Llywydd UMCA, "Rydyn ni wrth ein bodd ac yn croesawu penderfyniad y Brifysgol yn fawr. Diolch i holl aelodau UMCA am eu gwaith caled, ac i'n cefnogwyr i gyd. Ar 么l yr holl ymgyrchu, rydyn ni wedi sicrhau llwyddiant anferthol."

Bydd Gweithgor a Fforwm Staff a Myfyrwyr Cymraeg yn cael ei sefydlu yn yr wythnos nesaf er mwyn sicrhau dilyniant i'r trafodaethau meddai UMCA.

Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn nechrau'r 1950au ond yn 1974 y daeth yn neuadd breswyl Gymraeg.