91热爆

Adroddiad Silk: Newidiadau darlledu?

  • Cyhoeddwyd
S4C/91热爆
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r 91热爆 wedi ymrwymo i ariannu S4C tan 2017

Mae Comisiwn Silk yn dadlau y dylai rheoleiddio darlledu barhau yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU.

Ond mae'r adroddiad yn argymell cynyddu dylanwad Aelodau Cynulliad ar drefn lywodraethol ac ariannol y darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r rheoleiddiwr, Ofcom.

Wrth drafod y 91热爆, mae'r comisiwn yn dadlau dros ddisodli Cyngor Cynulleidfa Cymru, sydd ar hyn o bryd yn cofnodi barnau a phryderon y gynulleidfa i Ymddiriedolaeth y 91热爆.

Yn ei le, mae'r comisiwn yn argymell creu corff datganoledig o fewn yr ymddiriedolaeth, gyda'r p诺er i archwilio allbwn y 91热爆 yng Nghymru.

Mae'r comisiwn hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth y DU gael cytundeb ffurfiol Llywodraeth Cymru wrth benodi Ymddiriedolwr Cymru, sy'n debyg i'r broses sy'n digwydd yn barod gydag Ymddiriedolwr yr Alban.

Fe fyddai yr un fath o gytundeb yn ddelfrydol wrth benodi aelodau i fwrdd Awdurdod S4C hefyd, yn 么l argymhellion y Comisiwn. Byddai hyn yn ffurfioli proses sydd yn cynnwys tipyn o gydweithrediad rhwng gweinidogion yn San Steffan a Bae Caerdydd yn barod.

Dywedodd Ymddiriedolwr y 91热爆 dros Gymru, Elan Closs Stephens:

"Rydym yn croesawu cyfraniad meddylgar yr adroddiad hwn i'r ddadl dros ddarlledu yng Nghymru ac rydym yn nodi ei gasgliadau. Mae strwythur llywodraethiant y 91热爆 yn fater i Lywodraeth y DU; mae'r Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar gyflawni ei chyfrifoldebau fel y maen nhw wedi eu gosod allan yn y Siarter gyfredol.

"Fel yr Ymddiriedolwr dros Gymru, cefais fy mhenodi i sicrhau bod buddiannau talwyr Cymreig ffi'r drwydded yn cael eu cynrychioli yn y penderfyniadau y mae'r Ymddiriedolaeth yn eu gwneud ar y cyd; mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn elwa o gyngor mewn-dyfnder Cyngor Cynulleidfa Cymru ar berfformiad y 91热爆 ac unrhyw faterion o bwys sy'n dod i'r golwg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru."

Datrys 'anghysondeb'

Ond efallai'r argymhelliad mwyaf arwyddocaol yw y dylai'r cyfrifoldeb dros ariannu S4C symud o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyfateb i tua 拢6.7m y flwyddyn ar hyn o bryd, tra bod y rhan helaeth o gyllid blynyddol S4C wedi dod o ffi drwydded y 91热爆 (tua 拢76m) ers mis Ebrill 2013.

Mae Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) wedi ymrwymo i ariannu S4C tan 2015/16, tra bod y 91热爆 wedi ymrwymo i ariannu S4C tan 2016/17.

Dywed y comisiwn ei bod hi'n "anghyson" fod y p诺er i ariannu S4C yn nwylo Llywodraeth y DU yn hytrach nag yn nwylo Llywodraeth Cymru, ond mae'n nodi y dylai'r newid cyfrifoldeb am ariannu'r sianel "gynnwys annibyniaeth hyd braich S4C; rhaid peidio 芒 pheryglu annibyniaeth olygyddol".

Mewn ymateb i'r argymhellion, dywedodd cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

"Rydym yn ddiolchgar i'r Comisiwn am roi ystyriaeth i ddyfodol S4C fel rhan o'u gwaith.

"Mae S4C yn rhoi cryn bwyslais ar sicrhau perthynas gref gyda llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru, ac rydym am barhau i gynnal ein perthynas gyda'r ddwy lywodraeth wrth inni wynebu heriau'r dyfodol.

"Fe fyddwn ni'n parhau i drafod gyda'n rhanddeiliaid gyda'r bwriad o sicrhau bod S4C yn cael ei hariannu'n ddigonol, yn unol 芒'r ddeddfwriaeth."

Ofcom yn ymateb

Er bod gan Ofcom swyddfa yng Nghymru a Phwyllgor Cynghori Cymru, mae'r comisiwn yn dweud y gellid cynrychioli materion Cymreig yn well trwy naill ai benodi aelod i Gymru ar fwrdd y rheoleiddiwr, neu roi cyfrifoldeb dros Gymru i un o aelodau presennol y bwrdd.

Mae Ofcom dweud "mai mater i San Steffan yw unrhyw newidiadau i Fwrdd Ofcom", gan ychwanegu bod ffurf y bwrdd wedi cael ei benderfynu fel rhan o Ddeddf Cyfathrebu 2003.

Ychwanegodd y cwmni: "Fe wnaeth y ddeddf arwain at gynrychiolaeth i'r cenhedloedd ar y Bwrdd Cynnwys a'r Panel Defnyddwyr a chreu Pwyllgorau Cynghori Cenedlaethol ymhob gwlad.

"Er mwyn sicrhau bod safbwyntiau'r cenhedloedd yn cael eu cynrychioli'n deg ymhob maes, mae Ofcom hefyd wedi creu Pwyllgor y Cenhedloedd, sy'n cynnwys cadeiryddion pob un o'r Pwyllgorau Cynghori Cenedlaethol a'r cyfarwyddwyr cenedlaethol, yn ogystal 芒 dau aelod o Fwrdd Ofcom."

'Angen datanoli darlledu'

Ymysg yr argymhellion cyffredinol, mae Comisiwn Silk yn dweud y dylai darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus megis y 91热爆, ITV ac S4C gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys data ar dueddiadau yn allbwn darlledu Cymreig.

Ond dyw'r newidiadau sy'n cael eu cynnig ddim yn mynd yn ddigon pell i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Meddai eu cadeirydd, Robin Farrar: "Mae hanes diweddar y toriadau i S4C a sefyllfa radio lleol yn dangos nad yw Llundain yn deall anghenion Cymru. Credwn fod datganoli darlledu yn hanfodol er mwyn cael cyfundrefn ddarlledu sy'n ateb gofynion Cymru a'r Gymraeg.

"Mae nifer o wleidyddion o wahanol bleidiau wedi cefnogi ein galwad i ddatganoli darlledu, felly mae'n destun dryswch bod y comisiwn wedi colli cyfle pwysig wrth ddod i gasgliad mor geidwadol.

"Mae'n codi cwestiynau ynghylch sut mae'r pleidiau wedi cytuno'n unfrydol ar adroddiad nad yw'n gyson 芒'u safbwynt."