91热爆

Comisiwn Davies yn erbyn ehangu Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe brynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd ym mis Mawrth wedi gostyngiad yn nifer y teithwyr

Fyddai ehangu Maes Awyr Caerdydd ddim yn lleihau'r galw am hediadau o Lundain, yn 么l comisiwn a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth y DU.

Roedd gr诺p o arbenigwyr trafnidiaeth ac arweinwyr busnes yng Nghymru wedi awgrymu y gallai'r maes awyr, sy'n berchen i'r trethdalwyr erbyn hyn, gael ei ddefnyddio fel safle ar gyfer hediadau rhyngwladol.

Y syniad oedd trosglwyddo teithwyr rhwng Caerdydd a Llundain ar drenau cyflym iawn - cynllun fyddai angen buddsoddiad gwerth 拢250m.

Ond mae'r adroddiad cychwynol gan y comisiwn, dan arweiniad y dyn busnes Syr Howard Davies, yn dweud y byddai'r pwysau ar feysydd awyr Llundain yn dal i gynyddu ac mai "siawns fechan" oedd y byddai modd symud y galw yna o Lundain a'r de ddwyrain i leoliadau eraill.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y byddai pobl yn dewis peidio hedfan - yn hytrach na defnyddio meysydd awyr eraill - petai'r meysydd awyr mawr yn cyrraedd eu huchafswm hediadau, fel sydd bron 芒 digwydd yn Heathrow a Gatwick.

Er na fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n llawn tan haf 2015, mae'n nodi tri phrif opsiwn - sef adeiladu trydedd llain lanio yn Heathrow, ymestyn y llain lanio bresennol yn Heathrow, ac adeiladu llain lanio newydd yn Gatwick.

Mae'r comisiwn hefyd wedi gwrthod datganoli'r dreth ar gyfer teithwyr awyr, a oedd wedi'i argymell gan Gomisiwn Silk.

Y ddadl oedd y byddai modd i'r cynulliad gwtogi ar y dreth yng Nghymru er mwyn denu hediadau rhyngwladol i Gaerdydd.

Ond mae Comisiwn Davies yn rhybuddio y byddai hyn yn amharu ar y gystadleuaeth rhwng Caerdydd a Bryste.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol