91热爆

Betsi Cadwaladr: 'Esiampl o sut i beidio llywodraethu'

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adroddiad yn codi pryderon am y ffordd gafodd achosion o C Difficile yn Ysbyty Glan Clwyd eu trin

Dylid defnyddio'r hyn ddigwyddodd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel enghraifft o fethiannau o fewn y gwasanaeth iechyd, yn 么l Aelodau Cynulliad.

Yn dilyn adroddiad beirniadol a gafodd ei gyhoeddi dros yr haf, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud y dylid defnyddio'r bwrdd iechyd fel esiampl o sut i beidio 芒 llywodraethu.

Fe wnaeth cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd ymddiswyddo yn sgil ymchwiliad a gafodd ei gynnal ar 么l cyhoeddi'r adroddiad ac, yn 么l y pwyllgor, mae arweinwyr newydd y bwrdd yn wynebu "tasg anferthol".

Mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi croesawu'r adroddiad gan ddweud fod gwelliannau eisoes yn cael eu gweithredu.

Methiannau

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 21 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Bod trefniadau'r broses reoli ac arfarnu perfformiad ar gyfer prif weithredwyr a chadeiryddion sefydliadau'r GIG yn cael eu hadolygu a'u cryfhau lle bo angen er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon trwyadl, yn eglur a'u bod yn cael eu gweithredu;

  • Cynnal adolygiad brys o'r hyfforddiant sydd ar gael i aelodau byrddau ar draws holl gyrff y GIG yng Nghymru er mwyn llywio'r modd y caiff rhaglen hyfforddi genedlaethol ei datblygu a'i chyflawni ar gyfer aelodau bwrdd

  • Adolygu ei phrosesau ar gyfer dilysu ansawdd a diogelwch, a data allweddol arall gan sefydliadau'r GIG. Mae'n hanfodol cofnodi data o'r fath yn gywir i allu rhoi camau ystyrlon ar waith.

  • Cyhoeddi manylion yngl欧n 芒 marwolaethau o fewn ysbytai yng Nghymru, sydd yn cael eu galw'n ffigurau Rami.

Roedd yr adroddiad blaenorol, a gafodd ei ysgrifennu ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn nodi bod nifer o ffaeleddau yn bodoli o fewn y bwrdd.

Y broblem fwyaf, yn 么l yr awduron, oedd bod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd.

Problemau'n parhau

Fe wnaeth hyn arwain at gynnydd yn y risg o afiechydon fel C Difficile yn ogystal 芒 phroblemau ariannol gan fod rhai rheolwyr yn penderfynu oedi llawdriniaethau er mwyn peidio 芒 gorwario.

Daeth i'r amlwg fod perthynas cadeirydd y bwrdd, yr Athro Merfyn Jones, a'r prif weithredwr, Mary Burrows, wedi chwalu'n llwyr a bod hyn hefyd yn achosi problemau.

Yn fuan wedyn fe wnaeth y ddau gyhoeddi eu bod am roi'r gorau i'w swyddi - fe aeth yr Athro Jones ym mis Medi, gyda Dr Peter Higon yn cymryd ei le.

Ond mae oedi wedi bod yn ymadawiad Ms Burrows oherwydd nad yw ei setliad ariannol wedi cael ei gymeradwyo eto.

Yn 么l adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae'r oedi o chwe mis wedi bod yn "rwystr sylweddol ar allu'r bwrdd iechyd i symud ymlaen, gan ei fod wedi methu a phenodi prif weithredwr newydd".

'Gwaith mawr'

Mae hefyd yn dweud ei bod hi'n "hanfodol bod y broses yma'n cael ei gorffen cyn gynted 芒 bod modd".

Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad GIG mwyaf yng Nghymru gyda thri ysbyty o dan ei reolaeth sef Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn codi pryderon yngl欧n 芒'r ffordd mae heintiau fel C Difficle yn cael eu rheoli a'r ffaith bod cyfraddau marwolaeth o fewn yr ysbytai yn uwch na'r disgwyl.

Yn sgil hyn mae'r pwyllgor am weld y ffigurau Rami'n cael eu cyhoeddi a bod y bwrdd iechyd yn cyhoeddi manylion ei ymchwiliadau ei hun i'r mater.

Yn siarad wrth i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gael ei gyhoeddi, dywedodd y cadeirydd Darren Millar: "Mae gwaith mawr o flaen y t卯m newydd a fydd yn arwain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n rhaid iddo adennill hyder y cyhoedd ar frys ynghyd 芒 sefydlu system lywodraethiant newydd, gadarn ac atebol a fydd yn mynd i'r afael 芒'r bwlch rhwng y bwrdd a'r ward.

"Mae'r methiannau a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein hymchwiliad, ynghyd 芒'r rhai yn yr adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru, yn peri pryder arbennig gan eu bod yn digwydd wrth i'r sector iechyd cyfan yng Nghymru fynd drwy newidiadau anferth o ran cyllid a strwythur.

"Gyda hyn mewn cof, credwn y dylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod ein holl fyrddau iechyd yn dysgu o'r hyn a ddigwyddodd yng ngogledd Cymru fel nad yw'r un methiannau yn codi eto a bod y risgiau i gleifion yn cael eu lleihau."

'Gwneud cynnydd'

Dywedodd Dr Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn, a byddwn yn ei ystyried yn ofalus.

"Rydym eisoes wedi derbyn bod methiannau wedi digwydd, ac rydym yn gweithio i'w gwella. Rydym yn gwneud cynnydd wrth atgyfnerthu arweinyddiaeth a chydlyniad y bwrdd a'n systemau llywodraethu ac atebolrwydd.

"Rwyf wedi bod yn fy swydd ers dau fis ac mae'r is-gadeirydd a chyfarwyddwr meddygol newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

"Diogelwch ein cleifion yw'r peth pwysicaf ac mae rheoli haint yn flaenoriaeth uchel. Rydym wedi penodi arbenigwr blaenllaw mewn atal a rheoli haint. Rydym hefyd wedi sefydlu system monitro wythnosol ar gyfer haint ar lefel y bwrdd gyda llinellau clir ar gyfer adrodd ac atebolrwydd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mewn datganiad y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad yn ofalus.

Mae hefyd yn dweud: "Mae'r adroddiad yn nodi'r mannau sydd angen cael eu cryfhau a bod y gwaith yr y rhain eisoes wedi dechrau.

"Er enghraifft, mewn perthynas 芒 datblygiad y bwrdd, monitro safonau a diogelwch, a gwella tryloywder data ar-lein drwy Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol, gwefan sy'n rhoi gwybodaeth am y byrddau iechyd lleol, ysbytai a meddygon teulu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol