91热爆

Datganiad yr hydref: Yr ymateb

  • Cyhoeddwyd
Ed BallsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Honnodd Ed Balls bod pobl sy'n gweithio ar eu colled o 拢1,600 y flwyddyn oherwydd Datganiad yr Hydref

Wrth ymateb i Ddatganiad yr Hydref roedd llefarydd yr wrthblaid, Ed Balls, yn feirniadol.

Pwysleisiodd y byddai pobl sy'n gweithio ar eu colled o 拢1,600 y flwyddyn o'i gymharu 芒 2010.

Dywedodd hefyd fod benthyca i fusnesau i lawr 拢100 biliwn o'i gymharu 芒 Mai 2010.

Cyhuddodd Mr Osborne a'i lywodraeth o sefyll dros fuddiannau cwmn茂au ynni, cronfeydd gwarchodol (hedge funds) a'r rhai sy'n ennill mwy na 拢150,000 y flwyddyn ond nad oedden nhw'n gwneud dim i bobl sy'n gweithio.

Nododd Mr Balls nad oedd sylw o gwbl yn araith Mr Osborne i'r credyd cyffredinol sef cynllun yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith i ddiwygio budd-daliadau.

Awgrymodd y gallai llythrennau cyntaf enw Mr Duncan Smith sefyll am "in deep shambles".

Gorffennodd drwy ddweud: "Does bosib y gallwn ni wneud yn well na hyn. Gyda changhellor a phrif weinidog sydd allan o gysylltiad, mae pobl sy'n gweithio'n galed ym Mhrydain ar eu colled o dan y Tor茂aid."

Llywodraeth Cymru

Dyw'r datganiad ddim wedi newid yr heriau ariannol sy'n wynebu Cymru, meddai Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru.

Dywedodd bod y llywodraeth yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd ond roedd yn croesawu'r newyddion y byddai Wylfa newydd yn cael ei chodi. Er hyn, beirniadodd y newidiadau i'r system les.

"Mae ein cyllideb derfynol ar gyfer 2014-15 yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau ac yn adlewyrchu'r penderfyniadau anodd rydyn ni wedi gorfod eu gwneud. Ond dyw'r cyhoeddiad heddiw ddim yn gwneud dim i newid y blaenoriaethau hynny."

Plaid Cymru

Rhybuddiodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards nad oedd y twf yn yr economi yn debygol o bara yn yr hir dymor oherwydd y toriadau.

"Dyw'r gwelliant araf yn yr economi ddim wedi effeithio ar nifer o deuluoedd cyffredin, yn enwedig yng Nghymru, ac maen nhw'n dal i frwydro gyda chostau byw fel bwyd a thanwydd tra bod eu cyflogau yn gostwng."

UKIP

Dywedodd UKIP: "Addawodd y Canghellor yn 2010 y byddai'n canolbwyntio ar leihau'r ddyled a'r diffyg ond o dan ei ofal fe fydd y llywodraeth wedi benthyg 拢198 biliwn yn fwy nag yr oedd wedi addo.

"Mae'r llywodraeth yn byw y tu hwnt i'w hadnoddau ac yn creu sefyllfa fydd yn cael ei hetifeddu gan ein hwyrion.

"Mae cost cyfrifoldebau pensiwn y wladwriaeth ar hyn o bryd yn 拢4.7 triliwn. Bydd hyn yn dyblu ymhen 20 mlynedd, gan adael baich anferth arall i genedlaethau i ddod."