91热爆

Rhybudd y gallai'r dadleuon M4 'bara tair blynedd'

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Mathew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw'r Athro Cole ddim yn credu y byddai'r draffordd newydd yn barod cyn 2020 ac y gallai gostio llawer mwy na'r amcangyfrif

Dyw traffordd newydd yn ne ddwyrain Cymru dim yn debygol o gael ei hadeiladu ar amser a gallai gostio llawer mwy na'r amcangyfrif o 拢1 biliwn, yn 么l arbenigwr ar drafnidiaeth.

Fe wnaeth yr Athro Stuart Cole, o Brifysgol De Cymru, ei sylwadau wrth annerch Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad ddydd Mercher.

Dywedodd y gallai gwrthwynebiad gan grwpiau amgylcheddol olygu o leia' "dair blynedd o ddadlau" cyn i'r gwaith o adeiladu'r ffordd 拢1 biliwn ddechrau.

Yn 么l yr Athro Cole, gallai'r oedi arwain at gynnydd "sylweddol" mewn costau.

Cyhoeddodd gweinidogion y DU'r wythnos ddiwetha' y gallai Llywodraeth Cymru fenthyg arian er mwyn ariannu ffordd newydd i'r M4.

Tri opsiwn

Mae'r pwyllgor yn ystyried cynlluniau ar gyfer rhan newydd o'r draffordd i'r de o Gasnewydd, drwy wastadeddau Gwent.

Mae tri opsiwn dan ystyriaeth, gan gynnwys gwneud dim byd. Ond mae'r llywodraeth yn ffafrio adeiladu ffordd newydd chwe l么n gwerth 拢1 biliwn.

Byddai hyn yn newid llwybr yr M4 ac yn mynd 芒 hi o Fagwyr yn y dwyrain, drwy'r gwastadeddau islaw Casnewydd ac yna'n ailymuno 芒'r ffordd bresennol. Byddai'r llwybr hwn yn osgoi twneli Brynglas.

Dywedodd yr Athro Cole wrth ACau ddydd Mercher: "Dy'n ni ddim yn debygol o weld yr M4 newydd yma cyn 2020...mae costau adeiladu'n codi tua 10% y flwyddyn; fe alle' ni weld y ffigurau i gyd yn tyfu'n sylweddol os oes oedi cyn adeiladu unrhyw ran o'r cynlluniau hyn, felly does dim amheuaeth bydd cyfanswm y gost o adeiladu'r draffordd yn cynyddu wrth i ni fynd yn ein blaenau."

'Dim pwynt'

Mae'n cynnig cynllun arall i fynd i'r afael 芒 thraffig trwm yn ardal Casnewydd.

Yn gynharach, dywedodd wrth 91热爆 Cymru: "Be dwi'n dodi 'mlaen i'r cynulliad ydy scheme arall, sydd yn costio llawer yn llai ond sydd, yn fy marn i, yn mynd i wneud y job - gwella'r A48 a hefyd datblygu beth ma' nhw'n galw y Steelworks Road.

"Wrth edrych ar y forecast fel ma' traffig yn mynd i dyfu dros yr 20 mlynedd nesa', ry'n ni'n gweld fod o'n dod at plateau.

"Does dim pwynt, felly, gwario mwy o arian na sydd raid ar heol sy'n mynd i fod yn rhy fawr i'r hyn ry'n ni ishe dros yr 20 neu 30 mlynedd nesa'."

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach a nifer o grwpiau amgylcheddol eisoes wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r syniad o gael traffordd newydd.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae lleihau'r tagfeydd ar y draffordd yn yr ardal yn flaenoriaeth i'r economi Gymreig.

Bydd ymgynghoriad 12-wythnos ar y cynlluniau'n dod i ben cyn y Nadolig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol