91热爆

Gweinidog Addysg am leihau effaith tlodi

  • Cyhoeddwyd
Huw Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe olynydd Huw Lewis Leighton Andrews fel gweinidog addysg ym mis Mehefin

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dweud mai torri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad fydd ei brif flaenoriaeth o hyn ymlaen.

Yn ei araith fawr gyntaf i'r sector ysgolion galwodd am "ymrwymiad gan bawb" i dorri'r cysylltiad ac i godi safonau ar draws y cwricwlwm yng Nghymru.

Rhybuddiodd fod "anghysondeb difrifol" yng Nghymru o ran sut mae rhaglenni addysg yn cael eu darparu ond bod modd gwella hyn yn ddigon hawdd.

"O'r cychwyn cyntaf rwyf wedi ymrwymo i godi safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru a thorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad isel.

"Mewn gwirionedd, rydym yn gwybod bod effaith tlodi yn amlwg cyn i blant hyd yn oed ddechrau yn yr ysgol.

"Erbyn cyrraedd pump oed gall plant o gefndiroedd difreintiedig fod hyd at flwyddyn ar ei h么l hi mewn profion sillafu.

"Erbyn cyrraedd TGAU mae'r bwlch hyd yn oed yn fwy."

'Llai na hanner'

Dywedodd nad oedd yn fodlon bod y sefyllfa'n parhau.

"Llai na hanner y disgyblion sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim sy'n cael pum TGAU da, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg...

"Mae hyn yn annerbyniol. Dydw i ddim yn mynd i ganiat谩u hyn.

"O heno ymlaen, torri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad yw ein prif flaenoriaeth."

'Rhy hwyr'

Mewn ymateb i sylwadau Mr Lewis, dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar addysg, Aled Roberts, eu bod yn "rhy hwyr".

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael cenedlaethau o fyfyrwyr Cymreig ar ei h么l hi oherwydd anallu llwyr i wella ein system addysg. Mae Cymru'n dal i fod y tu 么l i Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth...

"Tra'n bod ni'n credu mewn targedu adnoddau ychwanegol at ein disgyblion mwya' difreintiedig er mwyn gwella cyrhaeddiad, ein blaenoriaeth yw edrych ar bob disgybl yng Nghymru'n unigol, waeth beth fo'u cefndir. Mae ein system addysg angen sicrhau fod pob plentyn yn perfformio hyd eitha' eu gallu."