91热爆

Trafod parc gwyliau newydd M么n

  • Cyhoeddwyd
Datblygiad Land & Lakes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall 500 o fythynnod gael eu codi ar safle Penrhos ger Caergybi

Bydd Cyngor M么n yn trafod cynllun i godi parc gwyliau newydd ger Caergybi mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Mae cynllunwyr y cyngor wedi cymeradwyo cynllun cwmni Land & Lakes i godi 500 o fythynnod ar dir sy'n berchen i gwmni Alwminiwm M么n, ym Mharc Arfordir Penrhos.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cynlluniau, gan ddweud byddai'r datblygiad yn denu twristiaeth i'r gogledd-orllewin.

Ond mae gr诺p o wrthwynebwyr yn dweud bod y cynllun yn rhy fawr.

600 o swyddi

Daeth y gwaith o gynhyrchu alwminiwm ar y safle i ben yn 2009, gan golli 400 o swyddi.

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys codi tua 500 o fythynnod ynghyd 芒 chaffis, tafarndai, siopau a meysydd chwaraeon.

Yn ol Land & Lakes byddai hyn yn creu 600 o swyddi ar y safle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r safle yng Nghae Glas yn un lle all y bythynnod gael eu hadeiladu

Mae'r cwmni hefyd wedi dweud y gall 300 o letyau ar safle Cae Glas gael eu defnyddio gan weithwyr sy'n adeiladu gorsaf b诺er niwclear Wylfa B.

Pan gafodd y cynllun ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2011, dywedodd un o'r comisiynwyr oedd yn gyfrifol am Gyngor Sir Ynys M么n ar y pryd, y gallai'r parc fod yn hwb i'r ardal.

Dywedodd Alex Aldridge yn 2011:

"Mae'r Awdurdod wedi bod yn cydweithio'n barhaol gydag Alwminiwm M么n a Llywodraeth Cymru er mwyn creu swyddi ar y tir sydd ar hyn o bryd ym mherchnogaeth Alwminiwm M么n.

"Mae hyn yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn er mwyn cyflawni'r nod yma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall 300 o'r bythynnod gael eu defnyddio gan weithwyr sy'n adeiladu gorsaf b诺er Wylfa

"Mae posibilrwydd hefyd o greu rhagor o swyddi sylweddol ar yr hen safle gwaith fyddai'n hwb pellach sylweddol ar gyfer economi Caergybi a'r ynys ehangach."

Gwrthwynebiad

Ond mae gr诺p o ymgyrchwyr lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau, ar y sail eu bod yn rhy fawr i'r tir sydd ar gael.

Mae deiseb yn erbyn y cynllun wedi ei harwyddo 1,200 o weithiau, tra bod deiseb arall gyda 800 o enwau wedi ei yrru at Llywodraeth Cymru.

Yn 2011, dywedodd Mike Pendragon, o Gaergybi, ei fod wedi ei frawychu gan faint y prosiect ar gyfer y safle 192 erw ym Mhenrhos.

Roedd hefyd yn feirniadol o swyddi posib fyddai'n deillio o'r cynllun. Honnodd mai swyddi tymhorol fyddai ar gael ac nid swyddi llawn amser, fel y mae'n credu sydd ei hangen.

Mae rhai hefyd yn pryderu am effaith y datblygiad ar wasanaethau lleol a'r iaith Gymraeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol