Cyfarfod i drafod carchar Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod agored yn cael ei gynnal yn hwyrach i roi cyfle i bobl Wrecsam roi eu barn am y cynllun i agor carchar anferth yno.
Cyngor Cymunedol Abenbury sydd wedi trefnu'r cyfarfod, ac mae'r cadeirydd Ray Squire yn dweud fod croeso i bawb fynychu'r digwyddiad, wedi cwyn nad oedd digon o hysbysu am ddigwyddiadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau ddechrau mis Medi y byddai'r carchar yn cael ei adeiladu ar hen safle'r ffatri Firestone ar stad ddiwydiannol y dref, gan greu lle i 2,000 o droseddwyr.
Diffyg hysbysebu
Mae'r cyfarfod wedi ei drefnu wedi i Mr Squire gwyno am drefniadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer hysbysu pobl yngl欧n 芒'u cyfarfodydd nhw.
Yn 么l Mr Squire doedd llawer o bobl ddim yn ymwybodol am y digwyddiadau.
Dywedodd: "Dylen nhw fod llawer mwy agored yngl欧n 芒 gadael i bobl wybod be sy'n digwydd. Dylai bod yr hysbysebu ar gyfer y digwyddiad yna wedi bod yn llawer gwell."
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwadu bod eu trefniadau ddim digon da.
'Dilyn y trefniant'
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Ysgrifennon at aelodau o'r gymuned gymdogol er mwyn eu hysbysu o'n penderfyniad ac fe wnaethon ni hefyd ofyn i gynghorwyr lleol ddweud wrth drigolion lleol am y datblygiadau.
"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gorfod dilyn yr un trefniadau cynllunio ac unrhyw gynnig arall o'r un maint."
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Pentre' Maelor, yn dechrau am 7pm.
Hwn yw cyfle pobl leol i gael dweud eu barn, yn 么l Mr Squire: "Yn ystod yr awr gyntaf bydd y cyngor cymunedol yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd am eu barn a'i safbwyntiau am y carchar.
"Wedyn rhwng 8pm a 9pm byddem yn gofyn i gynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Amddiffyn ystyried y materion sydd wedi cael eu codi."
Y disgwyl yw y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod haf 2014, a bydd y carchar gwerth 拢250 miliwn yn agor erbyn diwedd 2017.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2013
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013