Carchar Wrecsam: 'Un safle ar 么l'
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog un o'r ddau safle gafodd eu clustnodi ar gyfer carchar newydd yng ngogledd Cymru wedi dweud wrth 91热爆 Cymru ei fod yn amau na fydd ei safle yn cael ei ddefnyddio.
Cafodd dau safle ar stad ddiwydiannol Wrecsam eu dewis fel lleoliadau posib ar gyfer y carchar, fyddai'n dal 2,000 o garcharorion.
Gan fod Kingmoor Park Properties yn amau na fydd eu safle nhw yn cael ei ddefnyddio, safle ffatri Firestone, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yw'r lleoliad tebygol.
Mae'r 91热爆 wedi gofyn am ymateb Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
2,000 carcharor
Penderfynodd Llywodraeth Prydain ym mis Mehefin y byddai carchar newydd yn cael ei adeiladu yng ngogledd Cymru erbyn 2017.
Mae cefnogwyr i'r cynllun wedi dweud y bydd y carchar yn creu 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb economaidd gwerth miliynau i'r ardal, ac yn hwyluso ymweliadau i deuluoedd carcharorion.
Cafodd dau safle posib eu dewis wrth i Gyngor Wrecsam wneud cais am y carchar; hen safle Firestone sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, a safle sy'n eiddo i Kingmoor Park Properties, y ddau ar stad ddiwydiannol y dref.
Mae Kingmoor Park wedi cadarnhau eu bod wedi addo rhan fawr o'r tir i Wrexham Power sy'n gobeithio adeiladu gorsaf p诺er nwy gwerth 拢800 miliwn.
Dywedodd prif weithredwr Kingmoor Park, Tony Goddard, ei fod wedi cael gwahoddiad i gynnig ei safle ar gyfer y carchar gan Gyngor Wrecsam.
"Fe wnaethon ni gynnig ein safle ni, ac fe wnaeth y cyngor yr un peth gyda'i safle nhw.
"Dydw i heb glywed unrhyw beth ers hynny.
"Rydw i'n tybio felly nad yw ein safle ni yn addas."
Dywedodd bod y cwmni yn hapus i drafod cynlluniau'r carchar gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond bod y tir wedi ei glustnodi ar gyfer cynllun Wrexham Power ar hyn o bryd.
拢250尘
"Beth fyddai orau fyddai cael y carchar ar safle Firestone a'r orsaf b诺er ar ein safle ni," meddai Mr Goddard.
"Gall un ddarparu gwres a golau i'r llall, a chreu'r holl swyddi cysylltiedig hefyd.
"Rydw i'n meddwl y byddai'n newyddion gwych."
Nid oes disgwyl i gynllun Wrexham Power gael ei gyflwyno yn swyddogol tan y flwyddyn nesaf.
Byddai'r carchar yng ngogledd Cymru i garcharorion dosbarth C - rheiny sydd ddim yn gallu cael eu gadael mewn amgylchiadau agored, ond sydd ddim yn debygol o geisio dianc.
Cafodd hen safle ffatri Firestone, safle 108 o aceri, ei brynu gan Awdurdod Datblygu Cymru yn 1994.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cefnogi'r safle fel lleoliad posib ar gyfer y carchar.
Pan fydd y safle terfynol yn cael ei gadarnhau gall gwaith adeiladu ddechrau yn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2012