Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bale yng ngharfan b锚l-droed Cymru
Mae asgellwr Tottenham, Gareth Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Macedonia a Serbia.
Bu cryn s么n yn ddiweddar y gallai symud i Real Madrid, ond mae disgwyl iddo chwarae dros Gymru beth bynnag yw ei sefyllfa o ran ei glwb.
Mae Aaron Ramsey, Joe Allen a Neil Taylor hefyd wedi eu cynnwys er gwaethaf anafiadau.
Bydd Cymru yn teithio i Macedonia ar gyfer y g锚m ar ddydd Gwener, Medi 6, cyn chwarae Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd y dydd Mawrth canlynol.
Mae ymosodwr Caerdydd, Craig Bellamy, 34 oed, hefyd yn y garfan, fel y mae golwr Wolves, Wayne Hennessey.
Carfan Cymru:
Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), Neal Eardley (Birmingham City), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).