Betsi: cyfweld ar gyfer cadeirydd

Disgrifiad o'r llun, Cyhoeddodd yr Athro Merfyn Jones ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn gadeirydd wedi adroddiad damniol

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ddiweddarach er mwyn penodi cadeirydd newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae wedi aros yn y r么l dros dro nes bod rhywun newydd yn cael ei bennodi.

Diffyg cydweithio

Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru wnaeth lunio'r adroddiad a'u casgliadau oedd fod y cadeirydd a'r prif weithredwr Mary Burrows yn methu cydweithio gyda'i gilydd.

Dywedodd y ddogfen fod arweinyddiaeth o fewn y bwrdd, sydd yn gwasanaethu'r chwech sir yng ngogledd Cymru wedi ei "gyfaddawdu" a bod iechyd cleifion o ganlyniad yn cael eu rhoi mewn perygl.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi fod gan Betsi Cadwaladr broblemau ariannol difrifol a fod chwestiynau o ran adrefnu'r bwrdd er mwyn arbed pres yn y dyfodol.

Gwadu gwrthdaro

Fe benderfynodd Ms Burrows y byddai hi hefyd yn gadael yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad ac fe dderbyniodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y llythyr o ymddiswyddiad gan y ddau ohonynt.

Wrth roi tystiolaeth o flaen Aelodau Cynulliad ym mis Gorffennaf fe wadodd Merfyn Jones mai "gwrthdaro personoliaeth" oedd wrth wraidd y ffaeleddau yn Betsi Cadwaladr.

Ond mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn casgliadau'r adroddiad a'r argymhellion ac wedi sefydlu cynllun i ddelio gyda'r problemau.

Dywedodd y gweinidog iechyd mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru fyddai diwygio strwythur y bwrdd iechyd. Roedd Mark Drakeford yn awyddus fod person newydd yn cael eu ddewis yn fuan:

"Rwyf wedi gofyn i David Sissling, Prif Weithredwr GIG Cymru, er mwyn symud ymlaen yn gyflym i benodi eu holynwyr er mwyn galluogi'r bwrdd iechyd i ddechrau pennod newydd," meddai.

Fydd y cadeirydd newydd ddim yn cael ei bennodi ddydd Iau ond disgwylir cyhoeddiad wythnos nesaf.