91热爆

Cyn-reolwyr i roi tystiolaeth o flaen pwyllgor Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd adroddiad bod methiannau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi peryglu cleifion

Bydd cyn-gadeirydd a chyn-brif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymddangos o flaen aelodau Cynulliad yn ddiweddarach.

Bydd Merfyn Jones a Mary Burrows yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad i fethiannau mawr yn rheolaeth y bwrdd.

Ymddiswyddodd Mr Jones a Ms Burrows yn dilyn adroddiad damniol a ddywedodd bod problemau difrifol yn y ffordd cafodd y bwrdd ei reoli, ac yn enwedig yn eu perthynas nhw, wedi arwain at ffaeleddau mawr.

Un o'r prif gasgliadau ymchwiliad y Swyddfa Archwilio ac Arolygiaeth Iechyd Cymru oedd bod arweinyddiaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi ei danseilio gan fod perthynas y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr wedi dirywio cymaint.

Rhoi tystiolaeth

Ddydd Iau bydd y cyn rheolwyr yn cael eu croes holi gan aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad i geisio darganfod beth yn union aeth o'i le.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn rhoi tystiolaeth yngl欧n 芒 pha fesurau sydd wedi eu gweithredu i wella'r sefyllfa tra bod y broses o ddod o hyd i brif weithredwr a chadeirydd newydd yn parhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhai o uwch reolwyr byrddau iechyd eraill Cymru yn rhoi cymorth i fwrdd y gogledd yn ystod y cyfnod yma.

Methiannau

Fe wnaeth yr adroddiad a chafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny'n rhoi iechyd cleifion mewn perygl.

Dywedodd y ddogfen bod y pryder mwyaf yn ymwneud a'r 22 aelod o'r bwrdd ei hun.

Y bwrdd hwn sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau fel sut y dylai arian gael ei wario ac mae disgwyl iddyn nhw ddarparu arweinyddiaeth gref mewn cysylltiad 芒 safon gofal a diogelwch cleifion.

Fe wnaeth ymchwilwyr ddarganfod nad oedd uwch reolwyr yn rheoli'r ymateb i broblemau mawr, fel achosion o heintiau fel C Difficile ar wardiau ysbyty.

Yn 么l yr adroddiad roedd y bwrdd iechyd mewn "sefyllfa anodd eithriadol" oherwydd methiant yr Athro Jones a Ms Burrows i weithio gyda'i gilydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol